Rydym yn gwella’r ffordd rydym yn gofalu am eich cymdogaeth! Drwy drosglwyddo’r gwaith casglu gwastraff i’r arbenigwyr yn HJE, rydym wedi rhoi’r gorau i glirio tipio anghyfreithlon er mwyn canolbwyntio ar wella eich mannau cyffredin.

O ddyddiau clirio #CaruEichStryd i waith atgyweirio sylweddol ar lwybrau troed, rydym wedi cael blwyddyn brysur. Nawr, mae’n bleser gennym gyhoeddi gwelliannau i’n ffordd o weithredu. Dyma grynodeb o’r hyn sy’n newid!

Rhaglen gylchol newydd ar gyfer cynnal a chadw ystadau

Gan ddechrau ym mis Ebrill 2026, rydym yn cyflwyno gwaith cynnal a chadw fesul ystad sy’n cynnwys chwistrellu chwyn, tacluso ymylon llwybrau a thocio. Rydym yn gweithio drwy bob ystad yn systematig fel nad yw unrhyw ardal yn cael ei hesgeuluso!

Cadwch lygad amdanom yn eich blociau cymunedol!

O hyn ymlaen, byddwch yn gweld ein cydweithwyr yn amlach yn y blociau cymunedol. Dydyn nhw ddim yno am dro: maent yn eich cadw’n ddiogel drwy:

● Gynnal archwiliadau misol ac adrodd am atgyweiriadau.
● Profi goleuadau argyfwng a larymau tân.
● Bod yn wyneb cyfeillgar. Maent yno i ateb eich cwestiynau ac i gynnig cymorth.

Cyflwyno ein contract glanhau cymunedol newydd…

Os ydych chi’n byw mewn adeilad gyda mannau mewnol a rennir, byddwch nawr yn gweld glanhwyr bob pythefnos yn helpu i gadw’r cynteddau, mynedfeydd a’r mannau cymunedol yn daclus.

Yn ogystal â hynny, bydd gwaith glanhau trwyadl yn digwydd bob chwe mis, sy’n cynnwys glanhau ffenestri.

Torri gwair yn well: mwy na dim ond torri’r borfa!

Atebodd dros 30 o gwsmeriaid ein pôl piniwn ar Facebook gan helpu i lunio ein contract torri gwair newydd. Clywsom eich llais yn glir – hoffech weld mwy na dim ond torri’r gwair. Mae ein contract newydd yn cynnwys amserlen glir o 9 toriad fesul ystad, a bydd y gwaith hefyd yn cynnwys:

● Ymylon llwybrau
● Clirio dail
● Dileu chwyn a mwsogl
● Cynnal a chadw llwyni a gwrychoedd
● Plannu bylbiau, blodau gwyllt a helyg
● Clirio tipio anghyfreithlon

Bydd pethau’n gweithio ychydig yn wahanol yn ein cynlluniau byw cymunedol. Yn unol â’ch ceisiadau, mae’r gwaith cynnal a chadw’r tir yn fewnol unwaith eto, felly bydd ein tîm yn gofau am eich gerddi drwy gydol y flwyddyn.

Ailgodi tâl am dipio anghyfreithlon

Yn anffodus, mae tipio anghyfreithlon yn broblem gynyddol sy’n codi’r risgiau tân a phlâu.

Oherwydd hyn, bydd cost clirio tipio anghyfreithlon nawr yn cael ei ailgodi i’r bloc lle mae’n digwydd, oni bai fod gennym dystiolaeth sy’n adnabod yr unigolyn sy’n gyfrifol.

Dydyn ni ddim eisiau codi tâl ar neb, ond mae angen i ni weithredu’n llymach i gadw ein cymunedau’n ddiogel ac yn fannau dymunol i fyw ynddynt. Os gwelwch dipio anghyfreithlon, rhowch wybod i ni fel y gallwn weithredu’n gyflym.

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan am ddiweddariadau rheolaidd ar ein cynnydd!