Fel cymdeithas dai, mae gennym gyfrifoldeb i helpu i gadw ein strydoedd yn ddiogel.

Dyna pam rydym yn falch o barhau â’n gwaith partneriaeth â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau difrifol ar ystad Wildmill.

Y llynedd, cafwyd adroddiadau am droseddau yn yr ardal yn gysylltiedig â materion fel masnachu a chyflenwi cyffuriau, gyrwyr wedi’u gwahardd, ac ecsbloetio.

Mae’r mathau hyn o heriau yn effeithio nid yn unig ar y bobl dan sylw, ond ar y gymuned ehangach hefyd. Ond mae gan bob un ohonom y pŵer i wneud rhywbeth amdano.

Gallai eich galwad dienw newid bywyd!

Os ydych chi’n amau bod rhywun yn cael ei ecsbloetio, neu os oes gennych chi wybodaeth am ddelio cyffuriau neu weithgaredd cysylltiedig, gallwch roi gwybod i Crimestoppers yn ddienw.

Ffoniwch nhw ar 0800 555 111. Fyddan nhw byth yn gofyn am eich enw nac yn tracio eich galwad.

Trwy adrodd am rywbeth, hyd yn oed os oes gennych amheuon, gallai eich gweithred amddiffyn plentyn neu oedolyn agored i niwed ac atal mwy o bobl rhag cael eu hecsbloetio.

Tremgarth sy’n saffach a hapusach

Ers i Crimestoppers godi arwyddion yn Tremgarth i annog pobl i roi gwybod am bryderon, mae’r ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r troseddu yn yr ardal wedi lleihau.

Byddwch yn gweld arwyddion yn Wildmill cyn hir sy’n annog preswylwyr yn yr ardal i wneud yr un peth. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i wneud ein cymunedau’n saffach!

Cofiwch: mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.