Yr wythnos diwethaf, fe groesawom bron i 40 o bobl i’n digwyddiad cymunedol ym Maesteg, a oedd yn canolbwyntio ar sut y bydd ein datblygiadau tai diweddaraf yn cefnogi’r dref i ffynnu. Gyda dros 200 o gartrefi newydd yn cael eu darparu a mwy na £100,000 yn cael ei ail-fuddsoddi mewn buddion cymunedol lleol, mae hwn yn gam mawr ymlaen i breswylwyr a rhanddeiliaid lleol Maesteg. Cafodd y mynychwyr gyfle i weld effaith tri datblygiad newydd cyffrous dros eu hunain:
Heol Ewenni
Ein datblygiad mwyaf erioed: 193 o gartrefi, gan gynnwys cymysgedd o gartrefi fforddiadwy ar gyfer rhentu cymdeithasol, eiddo perchnogaeth cartref cost isel, cartrefi i’w gwerthu ar y farchnad agored, a chartrefi rhent fforddiadwy.
Campws Maesteg
13 o gartrefi un llofft ar gyfer rhentu cymdeithasol.
Old Drill Hall
18 o gartrefi un i ddwy lofft ar gyfer rhentu cymdeithasol.
Gofynnodd ymwelwyr gwestiynau am hygyrchedd, dulliau adeiladu modern, a sut y bydd pobl yn gallu byw yn y cartrefi hyn. Cofrestrodd bump o bobl eu diddordeb mewn prynu cartrefi yn Heol Ewenni hyd yn oed.
Eisiau cipolwg ar y mathau o dai? Porwch ein taflen wybodaeth i weld sut olwg fydd ar bob datblygiad!
Wrth fod allan yng nghanol Maesteg, cafodd ein timau gyfle i ryngweithio’n ystyrlon gyda thrigolion, gan drafod cydgyfnewid tai, trosglwyddiadau, cofrestriadau tai, ac addasiadau. Bwciwyd atgyweiriadau gan
gydweithwyr Llanw yn y fan a’r lle hefyd, gan ganlyn materion heb eu datrys a chyfeirio pobl at wasanaethau eraill. Mae’r sgyrsiau hyn yn rhoi cipolwg amhrisiadwy ar anghenion lleol ac yn helpu i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu cefnogi yn y ffyrdd sydd bwysicaf iddynt.
Fe wnaethom hefyd fwynhau dysgu mwy am hanes cyfoethog Maesteg. A oeddech chi’n gwybod?
● Cafodd mam Kylie Minogue, Carol Ann Jones, ei geni ym Maesteg, ac ar un adeg roedd ei theulu’n berchen ar y Swyddfa Bost ar Heol Pen-y-bont ac yn ei rhedeg.
● Perfformiwyd yr anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau, am y tro cyntaf ddechrau 1856 yn festri Capel Tabor.
● Saif pont haearn bwrw gyntaf Maesteg, sy’n croesi Afon Llynfi, ar waelod Treharne Row.
● Cafodd Ysbyty Maesteg ei adeiladu a’i ariannu gan lowyr lleol.
Mae’r straeon hyn yn ein cysylltu â’r dref ac yn ein helpu i ddathlu ei chymeriad ynghyd â thwf newydd. Cafwyd sgyrsiau adeiladol yn ystod y digwyddiad hefyd yn ymdrin â buddion cymunedol, torri gwair, a chyfleoedd i wella gwasanaethau. Cofrestrodd cwsmeriaid i ymuno â’n grŵp Lleisiau, gan helpu i ddylanwadu ar wasanaethau yn y dyfodol a sicrhau bod y gymuned yn parhau i lywio ei chymdogaethau ei hun.
Os hoffech ymgysylltu mwy â’n gwaith, cofrestrwch yma.