Rydym yn llawn cyffro wrth ddechrau ar y gwaith o ddarparu 12 fflat un llofft a 9 tŷ (rhwng dwy a phedair llofft), a phob un i’w chynnig ar rent cymdeithasol!

Rydym yn gwybod bod galw mawr am dai fforddiadwy, felly rydym yn falch o fod yn gweithio gydag adeiladwyr P&P i ddarparu cartrefi i unigolion, cyplau a theuluoedd ym Mynydd Cynffig.

Cartrefi sy’n llesol i bobl a’r blaned

Bydd y datblygiad yn cael ei ariannu’n rhannol gan grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru, gyda ffocws allweddol ar gynaliadwyedd.

Er enghraifft, bydd y cartrefi’n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern, yn cynnwys fframiau pren wedi’u cydosod ymlaen llaw, a bydd pwmp gwres o’r aer a phaneli solar ynddynt. Bydd y nodweddion hyn yn lleihau ôl-troed carbon y prosiect ac yn gostwng y biliau ynni i gwsmeriaid y dyfodol.

Cymuned gysylltiedig

Bydd y cartrefi mewn lleoliad gwych, a bydd preswylwyr y dyfodol yn gallu mwynhau:

● Mynediad rhwydd i ysgolion a siopau
● Agosrwydd i orsaf drenau’r Pîl
● Llwybrau beicio llesol i Dondu

Byddwn hefyd yn cyfrannu £13,500 mewn buddion cymunedol i gefnogi mentrau lleol, gan sicrhau bod effaith y prosiect yn ymestyn i’r gymuned ehangach.

“Mae pawb yn haeddu lle i’w alw’n gartref”

Dywedodd Rob Green, Cyfarwyddwr Twf a Phartneriaethau:

“Mae pawb yn haeddu lle i’w alw’n gartref, felly rydym yn falch gael rhoi’r cyfle i fwy o deuluoedd ac unigolion ymgartrefu.

“Rydym yn gwybod bod prinder tai yng Nghymru, felly rydym yn falch o gael darparu 21 o gartrefi fforddiadwy ac ecogyfeillgar ar ein carreg drws, gan ddiwallu anghenion tai.”

Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau’n fuan, a disgwylir i’r cartrefi cyntaf fod yn barod erbyn diwedd 2027. Edrychwn ymlaen at eich diweddaru wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo!

Eisiau bod yn rhan o’r sgwrs gynnar?

Rydym yn cynnal sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Gymunedol Talbot ar ddydd Mawrth 31 Mawrth, 4pm – 6pm.

Dyma’ch cyfle i:

● Ddysgu mwy am y cartrefi
● Ein helpu i enwi’r datblygiad newydd
● Rhannu eich syniadau am fuddion cymunedol fel meinciau, mannau bywyd gwyllt, a goleuadau