Rydym yn llawn cynnwrf wrth rannu diweddariad ar ein cynlluniau i ddod â 35 o gartrefi fforddiadwy newydd i Dondu, gan drawsnewid hen safle gwag Glan Yr Afon yn fan cymunedol newydd llewyrchus.


Rydym wedi sicrhau cyllid trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, sy’n helpu awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gyflenwi cartrefi saff, cynnes ac effeithlon o ran ynni ar gyfer rhentu cymdeithasol.


Bydd y datblygiad £8.2 miliwn yn cynnwys cyfuniad o 24 o fflatiau un ystafell wely ac 11 tŷ pedair ystafell wely, a phob un ar gael fel tai rhent cymdeithasol. Bydd gan bob fflat ar y llawr gwaelod ystafell ymolchi â mynediad gwastad, gan sicrhau bod y cartrefi’n fwy hygyrch i bobl ag anawsterau symud.


Rydym yn adeiladu’r cartrefi yn unol â safonau amgylcheddol uchel, gan ganolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni, allyriadau carbon isel ac ansawdd aer gwell. Trwy fabwysiadu ymagwedd ‘gwneuthuriad yn gyntaf’, rydym yn helpu preswylwyr y dyfodol i arbed arian trwy gadw’u cartrefi’n gynnes a’u biliau ynni’n isel.


Mae’r datblygiad hwn yn rhan o’n strategaeth twf uchelgeisiol, sy’n ymwneud â darparu mwy o gartrefi fforddiadwy o safon uchel ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r cwmpasoedd. Ar y cyd ag adeiladu a chaffael eiddo newydd, byddwn hefyd yn buddsoddi £172 miliwn yn ein cartrefi presennol dros y degawd nesaf, ynghyd â pharhau i gryfhau ein sefyllfa ariannol ar gyfer y dyfodol.

Fel y dywedodd James Griffiths, ein Rheolwr Gyfarwyddwr dros Ddatblygu ac Adfywio:
“Mae cartrefi saff, cynnes a sych yn hanfodol i’n lles a’n hymdeimlad o ddiogelwch. Rydym yn falch o fedru cyflenwi 35 o gartrefi fforddiadwy o safon uchel, gan helpu preswylwyr yn y dyfodol i fwynhau bywydau cyffyrddus a sefydlog ym Mhen-y-bont ar Ogwr.”

Ac yn ôl ein Huwch Swyddog Datblygu, Max Lewis:
“Mae’r safle tir llwyd hwn wedi bod yn wag ers blynyddoedd, felly rydym yn falch iawn o gael bywiogi’r ardal a chefnogi adfywiad Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r datblygwyr Pendragon yn cyfrannu £16,000 mewn budd i’r gymuned hefyd, felly bydd pobl leol yn elwa ar y prosiect yn ogystal â’r preswylwyr.”


Disgwyliwn y bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau erbyn Awst 2026, a byddwn yn rhannu mwy o ddiweddariadau wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.