Rydym am eich helpu i wneud eich tŷ yn gartref, ac weithiau mae hynny’n golygu gwneud ychydig o newidiadau! Er mwyn sicrhau bod eich cartref yn parhau i fod yn ddiogel i chi ac i breswylwyr yn y dyfodol, bydd angen i chi gyflwyno cais am wneud addasiadau cyn i chi ddechrau ar y gwaith.
Mae eich contract yn nodi na ddylech godi, symud na gwneud newidiadau strwythurol i siediau, garejys nac unrhyw strwythurau eraill yn yr annedd heb gydsyniad y landlord.
Dylech lenwi ffurflen ar wahân ar gyfer pob newid os oes nifer o dasgau yr hoffech eu gwneud.
Asbestos
Gall eich cartref gynnwys deunyddiau asbestos, felly mae’n rhaid i chi gysylltu â ni i ofyn am ganiatâd cyn dechrau ar unrhyw waith i’ch eiddo. Peidiwch â sandio, drilio na tharfu fel arall ar orchuddion waliau neu nenfwd (Artex), na symud na tharfu ar deils llawr cyn cysylltu â ni i gynnal gwiriad asbestos.
Bydd methu â chael ein cydsyniad neu ddilyn ein hamodau yn golygu eich bod yn torri eich contract meddiannaeth.
Cewch raor ow ybodaeth am ddiogelwch asbestos yma.
Caniatâd cynllunio neu reolaeth adeiladu
Yn dibynnu ar y gwaith rydych chi am ei wneud, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio neu reolaeth adeiladu arnoch gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP). Os felly, bydd angen i ni weld copïau o’r dogfennau hyn cyn i chi ddechrau ar y gwaith. Er enghraifft, nid ydym yn gallu rhoi caniatâd ar gyfer gosod cyrbiau is. Bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i CBSP am hyn.
Sut mae cael caniatâd?
I gyflwyno cais am newidiadau i ni, llenwch ein ffurflen ar-lein ar waelod y dudalen hon. I ofyn am gopi papur, anfonwch neges e-bost i ganolfan@v2c.org.uk neu ffoniwch ni ar 0300 123 2100.
Byddwn yn anelu at ymateb i’ch cais am newid o fewn 14 diwrnod ac os bydd angen, byddwn yn gofyn am wybodaeth bellach.
Mae gennym 30 diwrnod o’r dyddiad cyflwyno (neu o’r adeg y gofynnwyd am wybodaeth bellach) i naill ai cymeradwyo neu wrthod eich cais.
Ar gyfer beth mae angen caniatâd arnaf?
Mae’r rhestr isod yn rhoi enghreifftiau o waith cyffredin y mae angen caniatâd ar ei gyfer:
● Newid ffenestri/drysau mewnol ac allanol
● Newid ceginau/ystafelloedd ymolchi
● Gosod lloriau laminad
● Codi erialau/dysglau lloeren
● Gosod dreifiau
● Newidiadau i gynllun eich gardd
● Newid neu ailosod ffensys/waliau ffin presennol
● Gwefrydd cerbyd trydan
Rhaid i bob newid gael ei wneud gan gontractwr yswiriedig i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud i safon dderbyniol a diogel.
Nid yw’r rhestr uchod yn hollgynhwysfawr, felly os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwaith yr hoffech ei wneud, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i roi mwy o wybodaeth i chi!
Sylwer, mae newidiadau penodol na fyddem yn eu cymeradwyo gan eu bod yn ymwneud â newidiadau strwythurol i’r eiddo:
● Newidiadau i gynllun eiddo, er enghraifft tynnu waliau
● Adeiladu ystafelloedd haul
● Trosi llofft
● Codi cynteddau
● Estyniadau
Rydym yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd i wneud eich cartref y gorau y gall fod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni!