Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi lansio ein hymgyrch cynaliadwyedd newydd, #ByddwchWyrdd. Rydyn ni eisiau i’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr feddwl am sut gallwn bob un leihau ein heffaith ar y blaned a helpu i gyrraedd ein nodau cynaliadwyedd fel y’u disgrifir yn ein Strategaeth Dyfodol Cynaliadwy Diogel a Hapus.
Mae ein Strategaeth Dyfodol Cynaliadwy Diogel a Hapus yn esbonio sut fyddwn yn gwella cynaliadwyedd ac yn lleihau ein hôl troed carbon dros y pum mlynedd nesaf. Bydd yn ein helpu i weithio tuag at ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Mae ein cysyniad datblygu cynaliadwy yn seiliedig ar bedwar piler a phob un dan arweiniad aelod o’n uwch dîm arweinyddiaeth
Byddwn yn gweithio’n agored ac yn gydweithredol gyda’n partneriaid, cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid allweddol i helpu i leihau effaith ein sefydliad a’n stoc dai.
Y Pedwar Piler
Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar bedwar prif biler. Mae ein cydweithwyr wedi ffurfio grwpiau gweithredu i ganolbwyntio ar bob piler a’n helpu i gyrraedd ein nodau. Cliciwch ar bob piler i gael mwy o wybodaeth ynglŷn â’r hyn maent yn ei olygu a pha weithredoedd gallem eu gwneud:
Stopio allyriadau carbon deuocsid rhag mynd i’r atmosffer trwy ddiddymu tanwydd ffosil yn raddol (e.e. glo, olew, petrol).
Peidio â chynhyrchu unrhyw wastraff, sy’n golygu bod popeth naill ai’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei roddi.
Mae bioamrywiaeth yn cyfeirio at bethau byw a sut gallant effeithio a rhyngweithio â’i gilydd a’r gweithredoedd mae angen i ni eu gwneud i wrthdroi’r argyfwng ym myd natur.
Newid ein hymddygiad, systemau a’n ffyrdd o fyw i baratoi ac ymaddasu i effeithiau presennol newid hinsawdd a’i ganlyniadau disgwyliedig yn y dyfodol.
Cymerwch ran
Oes gennych chi syniad gwych i’n helpu i gyrraedd ein nodau cynaliadwyedd? Eisiau rhannu eich meddyliau a’ch syniadau ar sut gallwn leihau ein heffaith? Anfonwch e-bost atom a byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd gennym gyfleoedd i gymryd rhan.
Email us nowNewyddion Cynaliadwyedd
-
Cymerwch ran yn ein cynllun i blannu 300 o goed ar draws Pen-y-bont ar Ogwr
Yr hydref hwn, rydyn ni’n ymuno â Choed Cadw i harddu Pen-y-bont ar Ogwr drwy blannu 300 o goed ar draws y sir. Ein bwriad yw plannu coed yng Nghaerau, Maesteg, Gogledd Corneli a Phencoed ond cyn i ni ddechrau, rydyn ni eisiau clywed eich barn ynglŷn â’r lleoliadau. Dyma’ch cyfle chi i gymryd rhan! […]
-
Dathlu blwyddyn lwyddiannus arall yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB)
Yr wythnos hon, croesawom aelodau’r bwrdd a chyfranddalwyr i’n pencadlys i rannu ein hadolygiad blynyddol a’n cyfrifon am y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Roedd hefyd yn gyfle i rannu’r uchafbwyntiau, yn cynnwys ein cynnydd o ran adeiladu cartrefi newydd i gwrdd â’r angen lleol; buddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol; a chydweithio gyda phartneriaid allweddol yn cynnwys Cyngor […]