Tŷ Wyndham

Yn 2027, byddwn yn symud i swyddfa newydd y tu mewn i Dŷ Wyndham – yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr! Er y bydd y swyddfa newydd yn fwy hygyrch i’n cwsmeriaid ac yn fwy cyfforddus i’n cydweithwyr, bydd ailddatblygu’r adeilad hefyd yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o adfywio tref Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n golygu y bydd y gymuned gyfan yn teimlo’r manteision.

Mae ein cynlluniau mawr ar gyfer yr adeilad yn cynnwys:

● Wyth o fflatiau un llofft newydd i ddarparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen.
● Unedau masnachol newydd i helpu busnesau bach i ffynnu.
● Derbynfa gynnes a chyfforddus y gallwch alw i mewn iddi am baned a sgwrs, sy’n hygyrch yn syth oddi ar ystryd fawr!


Llinell Amser | Cwestiynau Cyffredin


Llinell amser o’r hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn a’r hyn sydd i ddod:

  • Gweithio gydag Office Visions i ddylunio gofodau newydd

    Rydym wedi dewis Office Visions, cwmni o Gaerdydd, fel ein contractwr ar ôl iddynt roi cyflwyniad llwyddiannus yn erbyn dau fusnes arall.

    Mae ein tîm o lysgenhadon swyddfa wedi edrych ar y cynlluniau a luniwyd gan Office Visions, ac wedi gwneud rhai awgrymiadau am welliannau.

    Ein prif ffocws yw sicrhau bod y gofod yn hygyrch ac yn groesawgar i gwsmeriaid, ac yn gyfforddus i gydweithwyr. Rydym wedi profi celfi, ystyried opsiynau storio ac wedi cynnal trafodaethau hir am nifer yr ystafelloedd cyfarfod y mae eu hangen arnon ni.

    Rydym yn gyffrous iawn i weld y cynlluniau hyn yn dod yn fyw dros y misoedd nesaf!

  • Fe gynhaliom ni ddigwyddiad gwybodaeth i gwsmeriaid, busnesau lleol a rhanddeiliaid

    Fe gynhaliom ni ddigwyddiad gwybodaeth am ein cynlluniau ailddatblygu ar gyfer Tŷ Wyndham.

  • Fe gyhoeddom ni ein bod yn symud ein swyddfa

    Fe rannom ni ein cynlluniau i symud i swyddfa newydd yn Nhŷ Wyndham, yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

  • Fe aethom ar daith o amgylch y safle!

    Fe gynhaliodd ein Grŵp Ymgysylltu â Chydweithwyr ymweliad â’r safle gan ofyn cwestiynau meddylgar fel “pa ddarpariaeth a wneir ar gyfer deiliaid bathodynnau glas?” a “sut gallwn ni ddylanwadu ar gynllun terfynol y swyddfa?”

Ateb eich cwestiynau

Pam nad yw’r arian hwn yn mynd tuag at wella eich gwasanaeth atgyweirio neu adeiladu cartrefi newydd?

Mae troi cost rhentu yn ased gwerthfawr yn cynyddu ein sefydlogrwydd ariannol a’n gallu i fenthyca. Gwyddom fod angen peth gofal a chariad ar ein cartrefi, felly bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ail-fuddsoddi’n uniongyrchol i atgyweirio a
gwella ein 6,000 o gartrefi ledled Pen-y-bont ar Ogwr.

Sut gallwn ni fforddio’r symud?

Rydym wedi cael £1.7m trwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gefnogi gwaith ailddatblygu Tŷ Wyndham. Sefydlwyd y rhaglen hon yn benodol i gefnogi gwaith adfywio trefi Cymru, ac rydym yn falch o fod yn chwarae rhan yn y gwaith o fywiogi canol ein tref.

 

Pam bod angen swyddfa fwy arnoch chi pan fod llawer o’ch staff yn gweithio gartref?

Rydym wedi tyfu fel sefydliad ac wedi creu cwmni pwrpasol, Llanw, i atgyweirio ein
cartrefi. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe groesawom 36 o gydweithwyr newydd i
Cymoedd i’r Arfordir, a 26 i Llanw. Fe fuddsoddom ni hefyd mewn 7 o brentisiaid
newydd.

Rydym yn cynnig gweithio hybrid gan ein bod yn gwybod bod hyblygrwydd yn bwysig
i’n staff, ond rydym yn cadw at bolisi gweithio hybrid sy’n nodi disgwyliadau ar
gyfer mynychu’r swyddfa’n rheolaidd. Ar gyfer rhai rolau, mae hynny o leiaf ddeuddydd yr wythnos, tra bod angen i eraill fod i mewn yn amlach. Rydym hefyd. yn defnyddio gofod ein swyddfa ar gyfer hyfforddiant, briffio, cydweithredu, a
digwyddiadau cymunedol.

 

Beth sy’n digwydd gyda’r swyddfa bost?

Rydym yn trafod gyda’r Swyddfa Bost ynghylch eu cynlluniau a byddwn yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i bobl cyn gynted ag y byddwn yn gwybod mwy.

Os oes 300 o gydweithwyr yn dod i mewn i’r dref bob wythnos, ble maen nhw’n mynd i barcio?

Mae ein cydweithwyr eisoes yn defnyddio’r meysydd parcio o amgylch canol y dref, gan gynnwys safleoedd cyfagos fel y Rhiw, ac mae’n debygol y bydd hynny’n parhau. Mae bod yn nes at yr orsaf drenau yn fantais arall, ac rydym yn annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle y bo modd.