Wel, am flwyddyn! O ddathlu ein pen-blwydd carreg filltir yn 20 oed, a chyhoeddi’r buddsoddiad sengl mwyaf erioed yn ein cartrefi; i gynyddu ein stoc dai i 6,000 unwaith eto a lansio enw a brand ein his-gwmni o dan berchnogaeth lwyr – bu’n chwyrlwynt o flwyddyn!

Mae wedi bod yn flwyddyn o dwf, gan adeiladu ar sylfeini Cymoedd i’r Arfordir i gyrraedd man lle rydym yn creu newid cadarnhaol i’n cwsmeriaid, cymunedau a chydweithwyr.

Ac felly, rhag ofn eich bod wedi colli hyn oll, dyma atgrynhoad:

Ionawr

Dechreuom y flwyddyn newydd drwy ymrwymo i gynaliadwyedd, gan gyhoeddi ein partneriaeth gyda Chymru Gynnes, cwmni buddiannau cymunedol sy’n helpu ein cwsmeriaid i gadw’n gynnes ac yn iach yn y cartref; a phlannu’r swp cyntaf o 300 o goed ar draws y fwrdeistref! Rhoddwyd y coed llydanddail brodorol hyn gan Coed Cadw, a byddant yn helpu ein hymdrechion i gefnogi datgarboneiddio, annog bioamrywiaeth ac atal llifogydd. Dechreuom blannu yng Nghaerau, Maesteg, Gogledd Corneli a Phencoed gyda chymorth gwirfoddolwyr cymunedol yn cynnwys disgyblion o Ysgol Gynradd Y Garth, Ysgol Gynradd Corneli ac Ysgol Gynradd Afon y Felin.

Cewch fwy o wybodaeth am ein hymrwymiadau i gynaliadwyedd yma.

Chwefror

Yn Chwefror ymunom â darparwyr tai cymdeithasol eraill ar draws y DU mewn ymateb i’r ffocws cenedlaethol ar leithder a llwydni yn dilyn marwolaeth drasig y plentyn dwy flwydd oed, Awaab Ishak yn Oldham. Fel rhan o’n hymateb, sefydlom grŵp gorchwyl a gorffen penodedig sydd wedi parhau i ganolbwyntio ar ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o’r mater a’i atal drwy gydol 2023. 

Esboniom hefyd sut rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i gyflawni budd i’r gymuned drwy ein contractau datblygu, yn cynnwys y stori anhygoel am sut buon yn gweithio mewn partneriaeth gyda Bluefield Land Ltd i gefnogi gwelliannau i’r maes yng Nghlwb Rygbi Ton-du.

Mawrth

Ym mis Mawrth cyhoeddom ganlyniadau ein harolwg STAR pan ddywedodd dros 1,300 o’n cwsmeriaid pa mor fodlon oedden nhw ar ein gwasanaethau. Mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth hynod ddefnyddiol i ni o’r meysydd lle mae ein cwsmeriaid yn dweud bod angen i ni wella ac mae cymaint wedi digwydd ers hynny! Un o’r prif feysydd rydym wedi canolbwyntio arno yw gwella ein gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw, a sut rydym yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cewch grynodeb o ganlyniadau’r arolwg STAR yma

Ebrill

Wrth i’r Gwanwyn gyrraedd, cyflwynom newidiadau i’r ffordd rydym yn arolygu cartrefi ein cwsmeriaid. Er mwyn arbed amser gwerthfawr i bawb, lansiom ein harolygon cartref cyfan lle rydym yn cynnal cyfres o wiriadau arolygu mewn un ymweliad. Mae’r gwiriadau hyn yn ein galluogi i gadw llygad ar yr anghenion cynnal a chadw yn y dyfodol, ynghyd â’r potensial ar gyfer gwelliannau i ynni yn y cartref.

Claddom gapsiwl amser yn ein datblygiad newydd yn Ffordd Melin Ddŵr  gyda chymorth disgyblion Ysgol Gynradd Hencastell a Hale Construction, gyda chyfarwyddiadau i’w agor yn y flwyddyn 2050!

A gwahoddom ein cwsmeriaid i ymuno â ni ar y daith a’n helpu i lunio ein cwmni atgyweirio a chynnal a chadw newydd – camodd llawer ohonoch ymlaen i ymuno â ni ar ein grwpiau ffocws a’n ffrydiau gwaith. Dydy hi fyth yn rhy hwyr i gymryd rhan, felly os hoffech ein helpu a chyfrannu eich profiadau, cewch fwy o wybodaeth yma..

Mai

Roeddem yn falch iawn o gyhoeddi ein hymrwymiadau i’r Gymraeg ym mis Mai. Mae Addo, sy’n golygu ‘to promise’ yn esbonio sut rydym yn cofleidio ein hiaith genedlaethol ac yn ei defnyddio ble bynnag y gallwn yn ein rhyngweithiadau â chydweithwyr, cwsmeriaid, a rhanddeiliaid. Darllenwch fwy yma 

Cyhoeddom ein partneriaeth ag e-Cymru hefyd, sef porth tai cenedlaethol a ddyluniwyd i gysylltu ein cwsmeriaid â digwyddiadau cyfranogi a chyfleoedd e-ddysgu i helpu pobl i fyw’n hapusach ac yn iachach. Cofrestrwch i gael gweld beth mae’n ei olygu!

Yn olaf, roeddem wrth ein bodd o gyhoeddi ein hymdrechion llwyddiannus i ostwng ein hôl troed carbon o 169 o dunelli ar hyd blwyddyn! Fodd bynnag, gan fod cyfanswm ein defnydd o garbon ar gyfer 2022-23 yn 33,938 o dunelli o garbon deuocsid a’i gyfatebol, mae mwy y gallem ac y dylem ei wneud. Dyma beth ddywedom amdano.

Mehefin

Rhoesom wybod i breswylwyr Caerau ein bod wedi sicrhau cyllid gan yr UE o hyd at £15,000 diolch i bartneriaeth rhyngom ni, Skyline Caerau, a’r Cymoedd Gwyrdd, ar gyfer llwybr troed newydd a gwelliannau amgylcheddol ar hyd Heol Cymer, Stryd y Gogledd a Stryd Fictoria. Nod y prosiect oedd helpu pobl i werthfawrogi’r golygfeydd syfrdanol o Gwm darluniadwy Llynfi, a chafodd ei gwblhau dros yr haf. Darllenwch amdano. yma. Rhoesom hefyd ddiweddariad ar ein cynnydd yn ein datblygiad 20 eiddo anhygoel yn Heol yr Hen Orsaf, Porthcawl.

Gorffennaf

Ym mis Gorffennaf torrom dir newydd gyda seremoni ar ein safle datblygu yn hen Ysgol Blaenllynfi lle rydym yn adeiladu 20 o gartrefi newydd. Roeddem wrth ein bodd o gael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru, gan ddod yn ail yn y categori ‘Ymagwedd at Gyfathrebu ac Ymgysylltu,’ am ein digwyddiadau untro. Yn ogystal, cafodd ein Clwb Ieuenctid Wildmill gwych yr anrhydedd mawr ei fri o ennill ‘Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Beirniaid’ am lwyddiant! Da iawn bawb.

Ac yn olaf, gwisgodd ein cydweithwyr eu hesgidiau cerdded i gychwyn ein dathliadau pen-blwydd yn 20 gyda thaith gerdded 20 cilometr elusennol o Gwm Ogwr i dref Pen-y-bont ar Ogwr – a’r cyfan er budd ein helusen y flwyddyn, Y Bwthyn Newydd. Gwyliwch ein fideo o’r her epig hon!

Awst

Yng nghanol yr haf, cyhoeddom enillwyr ein Gwobrau Tyfu am Aur sy’n dathlu’r effaith cadarnhaol mae gerddi a mannau cyhoeddus hardd, a gwyrddni’n ei gael ar ein cymunedau. Mewn seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Gymunedol hyfryd Bryncethin, rhoesom gydnabyddiaeth a gwobrau i’n cwsmeriaid anhygoel sy’n gweithio’n galed i gynnal eu gerddi a’n mannau gwyrdd. Bwriwch olwg ar erddi’r enillwyr, a chael ysbrydoliaeth ar gyfer 2024, yma.

Ym mis Awst hefyd, cyhoeddom benderfyniad ein Bwrdd i ddechrau’r broses o gau Clôs Dinam yn Nant-y-moel, gan esbonio’r camau y byddem yn eu cymryd i gefnogi’r tenantiaid. Cewch fwy o wybodaeth yma.

Medi

Ym Medi dathlom ben-blwydd Cymoedd i’r Arfordir yn 20! Roedd yr amseriad yn berffaith i gyhoeddi ein buddsoddiad sengl mwyaf yn ein cartrefi – sef y swm sylweddol o £31.5 miliwn er budd y cwsmeriaid sy’n byw yn ein 6000 o gartrefi ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. 

Dathlom gyda’n cwsmeriaid hefyd, gan gydweithio gydag ysgolion cynradd lleol i redeg cystadleuaeth cardiau pen-blwydd a gofyn i’r cwsmeriaid sydd wedi bod gyda ni drwy gydol ein taith 20 mlynedd beth mae cartref yn ei olygu iddyn nhw. Gwyliwch eu storïau calonogol yma.

Yn olaf, defnyddiom ein cynhadledd 20fed pen-blwydd i ddadorchuddio enw a brand ein his-gwmni o dan berchnogaeth lwyr. Llanw – ein ton newydd o waith atgyweirio a chynnal a chadw.

Hydref

Wrth i’r hydref nesáu, aeth ein tîm tai allan ar hyd y strydoedd i gynnal ein hymarfer curo ar ddrysau blynyddol. Mae hwn yn gyfle gwych i siarad â chwsmeriaid, ac eleni manteisiom ar y cyfle i ofyn am wybodaeth all ein helpu i ddarparu gwasanaethau mwy cynhwysol i bawb.

Wrth ofyn i’n cwsmeriaid am wybodaeth, dysgom fod rhai o’n cwsmeriaid yn cyfathrebu’n llwyr drwy Iaith Arwyddion Prydain neu fod ganddynt iaith gyntaf wahanol; fod y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid rhwng 55 a 64 oed; a bod nifer fawr ohonoch yn gofalu am anwyliaid yn llawn amser. Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu i ddatblygu ein gwasanaethau er mwyn eich helpu i fyw’n ddiogel ac yn hapus – diolch i bawb agorodd eu drysau i’n tîm.

Ac wrth gwrs roedd Nos Galan Gaeaf yn esgus perffaith i roi ein paent wyneb a’n gwisgoedd, gyda chyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned ysbrydoledig – bwriwch olwg ar ein gweithgareddau!

Tachwedd

Arian. Mae’n bwnc rydym bob un yn meddwl amdano, ond yn aml dyma’r un mae’n well gennym beidio â’i drafod ar goedd. Felly, yn ystod Wythnos Siarad am Arian Tachwedd, anogom ein cwsmeriaid i Wneud Un Peth a gofyn i’n tîm Materion Ariannol am gymorth. Cofiwch – gallwch sgwrsio â ni ar unrhyw adeg. 

A gyda’r Nadolig yn nesáu, gofynnom i’n cydweithwyr a’n cwsmeriaid gefnogi tri achos lleol teilwng – Apêl Siôn Corn Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n helpu i sicrhau bob pob plentyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael anrheg wrth ddeffro ar fore’r Nadolig; Apêl Blwch Rhodd Age Cymru, sef llenwi bocsys esgidiau ag anrhegion meddylgar i bobl hŷn yn ein cymunedau; a Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr, i helpu i sicrhau bod gan bobl rywbeth i’w fwyta dros ŵyl y Nadolig eleni.

Rhagfyr

Ac i gloi blwyddyn brysur, cyhoeddom ein bod wedi codi’r swm anhygoel o £5679.38 gyda’n gilydd ar gyfer ein Helusen y Flwyddyn, Y Bwthyn Newydd, i helpu’r elusen ryfeddol hon i ddarparu gofal lliniarol arbenigol a chymorth i bobl ag afiechydon sy’n cyfyngu ar fywyd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Ac, yn sgil eich enwebiadau, pleidleisiodd ein cydweithwyr dros Elusen y Flwyddyn 2024 – cadwch eich llygaid ar agor am newyddion a ddaw cyn hir.

Ac i helpu i lansio gŵyl y Nadolig, trefnom ein parti Nadolig blynyddol yn ein cynllun gofal ychwanegol yn Llys Ton ym Mynyddcynffig gyda pherfformiad gan ein côr o gydweithwyr a chwsmeriaid, the Choral Coasters. Bant â Chi, Bois…

Y camau nesaf…

Yn 2024 edrychwn ymlaen at: fynd yn fyw gyda Llanw, ein ton newydd o wasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw ym mis Ebrill; croesawu Cadeirydd newydd ein Bwrdd; trosglwyddo mwy o gartrefi newydd sbon i bobl leol; a buddsoddi miliynau yn ein cartrefi i sicrhau eu bod yn gynhesach, yn fwy diogel, ac yn fwy fforddiadwy.