Rydyn ni eisiau i’n gwasanaethau fod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb. Fel rhan o’n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant (CAC) fel y’u disgrifir yn ein map ffyrdd CAC, rydym wedi lansio prosiect i’n helpu i ddeall profiadau ein cwsmeriaid gyda nodweddion gwarchodedig yn well wrth iddynt roi gwybod i ni am waith atgyweirio.


Rydym eisiau clywed am eich profiadau chi, sut wnaethoch chi gysylltu â ni, unrhyw heriau a wyneboch, a sut gallwn wella ein gwasanaethau fel y bydd y broses yn haws i chi. Ein bwriad yw nodi’r pethau rydym yn eu gwneud yn dda a defnyddio’r arferion hyn fel meincnodau. Rydym hefyd eisiau amlygu meysydd lle gallwn wella er mwyn datblygu arferion gwell ar gyfer y dyfodol.


Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar y nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • Anabledd
  • Dan 25
  • Yn ailbennu rhywedd
  • Hil, crefydd, cred, a’r rhai y mae Saesneg yn ail iaith iddynt, gan ganolbwyntio ar
  • ddiwylliannau Dwyrain Ewropeaidd
  • Rhyw mewn perthynas â diogelu


Rydym yn cynnal sgyrsiau mewn person a dros y ffôn i gasglu eich barn. Fel arwydd o’n gwerthfawrogiad, bydd cyfle i chi ennill taleb rhodd gwerth £50 mewn raffl. Bydd yr arolwg yn cau am 5pm, dydd Gwener 7 Mehefin 2024.


Os gallwch chi neu rywun rydych yn eu hadnabod gyfrannu syniadau defnyddiol, rhannwch
yr arolwg hwn gyda nhw. Diolch am ein helpu i wella ein gwasanaethau i bawb.