Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein prosiect datblygu cyntaf y tu allan i Ben-y-bont ar Ogwr. Mewn partneriaeth â Castell Group Ltd, rydym yn adeiladu tai fforddiadwy effeithlon o ran ynni, o safon uchel ym Mhorth, Rhondda Cynon Taf, er mwyn mynd i’r afael â’r angen difrifol am gartrefi newydd yn yr ardal.


Mae safle ein prosiect yn safle tir llwyd lle safai’r adeilad YMCA a ddinistriwyd gan dân ym mis Tachwedd 2008. Trwy ailddatblygu’r safle hwn, rydym nid yn unig yn creu tai mawr eu hangen, ond hefyd yn adfywio
ardal sydd wedi bod yn ddiffaith ers tro.


Rydym yn adeiladu 21 o fflatiau un ystafell TPY gradd A, a phob un yn cynnwys gwres heb danwydd ffosil a phaneli solar i helpu ein cwsmeriaid gyda’u costau byw. Gan fabwysiadu technegau adeiladu arloesol, byddwn yn defnyddio system fframwaith pren paneli caeedig. Mae’r dull hwn yn golygu cydosod ac inswleiddio paneli pren ymlaen llaw oddi ar y safle, gan sicrhau effeithlonrwydd ac ansawdd.


Bydd yr holl gartrefi ar gael am rent cymdeithasol ac yn cael eu dosbarthu drwy restr aros anghenion cyffredinol Cyngor RhCT drwy Ceisio Cartref RhCT, gan sicrhau eu bod yn mynd i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.


Ein nod yw gorffen y cartrefi hyn erbyn Gwanwyn 2026. Mae’r camau nesaf yn cynnwys paratoi’r safle dros yr wythnosau i ddod a chynnal digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned i ddiweddaru a chynnwys
preswylwyr lleol.


Cadwch olwg am ddiweddariadau ar y daith gyffrous hon i ddarparu cartrefi newydd, fforddiadwy ym Mhorth!