Gorffennodd Cymoedd i’r Arfordir y broses o lunio cytundebau tymor hir ym mis Gorffennaf 2023. Mae cytundeb cymwys tymor hir yn gontract mae’r landlord yn ymrwymo iddo am gyfnod o fwy na 12 mis.

Drwy’r broses gaffael bydd Sell2Wales yn darparu gwasanaethau dan gontract ar gyfer y meysydd canlynol:

  • Toeon a Gwaith Cysylltiedig 
  • Inswleiddio Waliau Allanol a Gwaith Cysylltiedig
  • Uwchraddio Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi
  • Gwaith Allanol 
  • Adnewyddu Tai Cyfan ac Ymateb i Geisiadau am Waith Atgyweirio Arnynt 
  • Sgaffaldwaith
  • Ymateb i Geisiadau am Waith Atgyweirio ar Ddraeniau Dŵr Brwnt a Dŵr Wyneb 
  • Rheoli Plâu

Os oes angen unrhyw waith atgyweirio neu waith arall ar eich bloc sy’n syrthio o fewn un o’r categorïau uchod, bydd Cymoedd i’r Arfordir yn rhoi gwybod i chi drwy Rybudd Ymgynghori 30 diwrnod (ynghyd â 5 diwrnod cyn cyflenwi) dan y cytundeb tymor hir. Bydd hyn yn seiliedig ar restr o gyfraddau a gytunir ar ddechrau’r contract a bydd y rhain yn cael eu hadolygu’n flynyddol. Bydd y ddogfen sy’n cynnwys y rhestr o gyfraddau ar gael i’w darllen yn Swyddfa Cymoedd i’r Arfordir.