Yn ystod 2023, rydym yn bwriadu ymrwymo i gytundeb tymor hir gyda darparwyr gwasanaethau dan gontract tymor hir.

Mae cytundeb tymor hir cymwys yn gontract mae’r landlord yn ymrwymo iddo am gyfnod o fwy na 12 mis.

Pan fydd y cytundeb yn ei le, os oes angen unrhyw waith atgyweirio neu waith arall ar eich bloc, sy’n dod o fewn un o’r categorïau isod, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy Rybudd Ymgynghori 30 diwrnod (ynghyd â lwfansau ar gyfer cyflenwi) dan y cytundeb tymor hir. Bydd hyn yn seiliedig ar restr o gyfraddau a gytunir ar ddechrau’r contract ac a all fod yn destun adolygiad blynyddol. Bydd y ddogfen sy’n cynnwys y rhestr o gyfraddau ar gael i’w darllen am ddim yn ein Swyddfa Tremains, a darperir copïau ar gais am ffi fechan i dalu am gost y copïo.


Ystyriwn fod angen ymrwymo i gytundeb tymor hir ar gyfer contract atgyweirio ac adnewyddu cynlluniedig ac mewn ymateb i geisiadau am waith atgyweirio am y rhesymau canlynol:

Trwy roi contractau tymor hir dros gyfnod o amser, gobeithiwn y bydd hyn y dod â llawer o fuddion i’r sefydliad ac i’w gwsmeriaid, a allai gynnwys:

  • Amserau caffael byrrach. Lleihau’r amser a dreulir yn caffael contractwyr yn flynyddol, ac mae cael cytundeb â chontractwyr dros gyfnod hirach yn gwella parhad a chyflymder cyflenwi rhaglenni. Mae hyn oherwydd bod caffael a negodi contractau’n digwydd unwaith yn unig, gan ryddhau’r sefydliad i ganolbwyntio ar gynnal a rheoli cyflenwi gwaith. 
  • Gwella safon y gwaith. Mae gwella perthnasoedd tymor hir gyda chontractwyr yn barhaus yn meithrin dealltwriaeth o’r safonau a ddisgwyliwn wrth iddynt weithio gyda ni, a fydd yn gwella ansawdd cyffredinol y gwaith a gyflawnir.
  • Cael gwell gwerth am arian. Mae contractwyr mewn contractau tymor hir nid yn unig yn cynnig prisiau mwy masnachol fanteisiol, ond fel busnesau sy’n gymdeithasol gyfrifol, mae’n rhaid iddynt ddarparu buddion i’r gymuned drwy fuddsoddi, gan gael effaith cadarnhaol ar y cymunedau lle maen nhw’n gweithio.
  • Rhaglenni cynnal a chadw cynlluniedig estynedig i ddelio â gwaith atgyweirio mewn ymateb i geisiadau a achosir gan gydrannau sy’n para’n hirach na’u hyd oes disgwyliedig, gan arwain yn y pen draw i welliant yng nghyflwr a golwg eiddo.

Mae’r gwasanaethau’n cynnwys y meysydd canlynol:

  • Toeon a Gwaith Cysylltiedig 
  • Inswleiddio Waliau Allanol a Gwaith Cysylltiedig
  • Uwchraddio Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi
  • Gwaith Allanol 
  • Adnewyddu Tai Cyfan ac Ymateb i Geisiadau am Waith Atgyweirio Arnynt
  • Sgaffaldwaith
  • Ymateb i geisiadau am waith atgyweirio ar Ddraeniau Dŵr Brwnt a Dŵr Wyneb 
  • Rheoli Plâu

Nid oes angen i lesddeiliaid boeni am y “lot caffael Uwchraddio Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi”, gan nad yw’n berthnasol i’ch eiddo chi. Yn yr un modd, nid fydd y rhan Adnewyddu Tai Cyfan o’r “lot caffael Adnewyddu ac Atgyweirio Tai Cyfan” yn berthnasol i’ch eiddo chi.  Ond dylech nodi y bydd yr elfen ymateb i geisiadau am waith atgyweirio yn y lot hon yn berthnasol i’ch eiddo chi.

Fel Landlord, mae’n rhaid i ni gyflwyno hysbysiadau ymgynghori i lesddeiliaid ar y ddau gam canlynol yn y broses o ddyfarnu contract tymor hir lle mae hysbysiad cyhoeddus yn ofynnol.

  • y cam cyn tendro – hysbysiad o fwriad; a’r
  • cam tendro – hysbysiad o gynigion y landlord (amcangyfrifon)

Caiff y tendr am gytundeb tymor hir ei brosesu trwy Sell2Wales, a bydd angen hysbysiad cyhoeddus. Ni fydd lesddeiliaid a phreswylwyr yn cael cyfle i enwebu contractwyr. Os ydych yn gwybod am unrhyw gontractwyr sydd â diddordeb, cyfeiriwch nhw at wefan Sell2Wales, www.sell2wales.gov.wales.