Rydym yn croesawu unrhyw adborth ac yn gwneud ein gorau i ymateb cyn gynted â phosibl yn ystod oriau’r swyddfa (dydd Llun – dydd Gwener).

Os caiff sylwadau eu postio sy’n anghyfreithlon, yn sarhaus, yn aflonyddgar, yn ddifrïol, yn fygythiol, yn niweidiol, yn anweddus, yn halogedig, yn rhywiol, neu’n dramgwyddus yn hiliol, byddant yn cael eu dileu.

Hefyd bydd yr un drefn yn berthnasol yn achos rhegfeydd neu iaith amhriodol, gan gynnwys rhegfeydd sydd â sêr neu symbolau yn lle llythrennau.

Bydd sylwadau o dan bost sydd heb unrhyw gysylltiad neu berthnasedd i’r post ei hun neu a ystyrir yn sbam hefyd yn cael eu dileu.

Peidiwch â hysbysebu neu gyfeirio defnyddwyr at safleoedd eraill heb ein caniatâd.