Torri Tir ym Metws

Published on: In the categories:Cyffredinol

Rydym wedi dechrau ar y gwaith adeiladu yn swyddogol ar ddatblygiad Clwb Cymdeithasol Betws i ddarparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen yn yr ardal! Partneriaeth dros gynnydd Rydym yn falch o fod yn cydweithio â Grŵp Castell i adeiladu 20 o fflatiau un ystafell wely sy’n effeithlon o ran ynni (gyda sgôr EPC […]

Gwella sut rydym yn cynnal gwiriadau diogelwch nwy

Published on: In the categories:Cyffredinol

Mae’n rhaid i ni gynnal gwiriadau diogelwch nwy yn ein holl gartrefi bob blwyddyn, a hyd yma, Colin Laver sydd wedi eu cynnal. Rydym yn falch o ddweud y bydd y gwasanaeth hwn yn fewnol o eleni ymlaen. O Ebrill 2025, bydd Llanw yn rheoli’r holl wiriadau diogelwch nwy, gosodiadau, gwasanaethu, a chynnal a chadw […]

Prosiect Tai ar y Cyd: AdeiladuDyfodol Mwy Disglair Gyda’n Gilydd

Published on: In the categories:Cyffredinol

Yr wythnos diwethaf, roeddem yn falch o fynychu lansiad menter Tai ar y Cyd ochr yn ochr â landlordiaid cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, ac arbenigwyr yn y diwydiant adeiladu. Partneriaeth dros gynnydd Mae’r prosiect yn dod â 23 o gymdeithasau tai at ei gilydd sy’n rhannu nod cyffredin o ddarparu cartrefi fforddiadwy, o ansawdd uchel ond […]

Rhannwch eich barn yn ein harolwgSTAR i greu newid parhaol

Published on: In the categories:Cyffredinol

Y mis hwn, bydd 3,000 ohonoch yn cael ein harolwg STAR a gynhelir bob dwy flynedd drwy eich blwch llythyrau. Yn yr arolwg STAR diwethaf, rhannoch chi anfoddhad â’n gwasanaeth atgyweirio ac arweiniodd hynny at greu cwmni i wella ac ehangu ein gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw – Llanw. Y tro hwn, rydym yn […]

Diogelu’r Blaned: Sut mae ein Contractgyda Ceaton yn Helpu’r Amgylchedd

Published on: In the categories:Cyffredinol

Mae Gwasanaethau Diogelwch Ceaton yn fusnes sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, sy’n arbenigo mewn dylunio a gosod drysau tân a systemau diogelwch. Mae Ceaton wedi ymuno â Stump Up for Trees, elusen sy’n ymroi i blannu miliwn o goed ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ar gyfer pob contract cynnal a chadw sy’n cael ei adnewyddu, […]

Gosod y safon aur am gartrefi saffach

Published on: In the categories:Cyffredinol

Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn dechrau gweithio ym mis Ebrill 2025 tuag at ennill achrediad trwy’r Cynghrair Tai Cam-drin Domestig (DAHA). Bydd hyn yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau mwyaf diogel posibl i’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr. Golwg manylach ar y broses Bydd ennill achrediad yn broses drwyadl, a fydd yn cymryd hyd […]

Beth i’w Wneud Pan Fydd Deiliad Contract yn Marw: Terfynu Contracta Dychwelyd Eiddo

Published on: In the categories:Cyffredinol

Rydyn ni’n deall bod colli rhywun agos yn brofiad anodd ac emosiynol. Gall rheoli materion ymarferol yn ystod y cyfnod hwn deimlo’n llethol. I helpu i hwyluso’r broses o derfynu eu deiliadaeth gyda ni cymaint â phosibl, dyma beth fydd ei angen gennych: Tystysgrif marwolaeth I derfynu contract yn ffurfiol, bydd angen copi o’r dystysgrif […]

Cyfleoedd cyffrous i ymuno â’n Bwrdd

Published on: In the categories:Cyffredinol

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar ddarparu cartrefi diogel, hapus ledled Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ein gwreiddiau’n ddwfn yn ein cymuned leol, ac rydym yn chwarae rhan hanfodol yn ei hadfywio a sicrhau ffyniant ehangach Pen-y-bont ar Ogwr a De Cymru. Heddiw, rydym yn rheoli dros 6,000 o gartrefi diogel a fforddiadwy […]

Sioe yn Lake View: disgyblion o Borthcawl yn perfformio i’rpreswylwyr

Published on: In the categories:Cyffredinol

Mwynhaodd ein cwsmeriaid yng Nghynllun Byw yn y Gymuned Lake View gadwyn o ganeuon Nadolig ddydd Mawrth diwethaf gan ddod ag ysbryd y Nadolig iddynt. Mae ein Cynlluniau Byw yn y Gymuned yn cynnig llety byw yn y gymuned i breswylwyr dros bum deg oed ac maent yn cynnwys lolfeydd, ceginau, a chyfleusterau golchi dillad […]

System reoli tai newydd ar y ffordd

Published on: In the categories:Cyffredinol

Rydym wedi bod yn gweithio gyda CIVICA, ein cydweithwyr, a chwithau – ein cwsmeriaid – i ddatblygu system reoli tai newydd a gwell. Cyflymu ein gwasanaethau Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio cyfuniad o systemau a thaenlenni i reoli pethau fel gwaith atgyweirio, casglu rhent, rheoli tenantiaethau a chyfathrebu â chwsmeriaid. Bydd y system […]