Rydym wedi cyhoeddi cynlluniau yn ddiweddar i adeiladu llawer o gartrefi newydd, ac rydym yn falch iawn o hynny! Mae pawb yn haeddu cartref fforddiadwy ac mae gennym gyfrifoldeb i fynd i’r afael â’r
argyfwng tai yng Nghymru. Yn ddealladwy, mae pobl yn aml yn gofyn i ni “pam nad ydych chi’n gwario arian ar y cartrefi sydd gennych chi’n barod?”, felly dyma rai o’r ffyrdd rydym wedi bod yn buddsoddi yn ein cartrefi mwy ‘sefydledig’ er mwyn sicrhau eu bod yn gynnes, yn sych ac yn ynni-effeithlon.

Stryd Magazine

  • 11 tŷ tair ystafell wely.
  • Rhaglen o waith ôl-osod yn unol â gofynion PAS2035 (dyma’r ‘safon aur’ ar gyfer uwchraddio ynni cartrefi).
  • Mae’r gwelliannau’n cynnwys inswleiddio waliau allanol, paneli solar a systemau batri, ffenestri a drysau newydd, clymfariau, clirio ceudodau a gwaith daear.
  • Gwerth y contract: £680k

I ddod…

Byngalos Darran a fflatiau Cwrt Coleman

  • Bydd 14 o fyngalos ym Mlaengarw ac 8 fflat yn Nant-y-moel yn elwa ar waith ôl-osod i leihau eu hallyriadau carbon.
  • Cyflwynom gais cynllunio ar 17 Medi 2026. Nesaf, byddwn yn ymgeisio am drwydded ecoleg.
  • Bydd y gwelliannau i gartrefi yn cynnwys gorchuddion to, paneli solar, pympiau gwres o’r aer/gwresogyddion stôr, inswleiddio waliau allanol ac unrhyw waith atgyweirio cysylltiedig. Mae’r gwelliannau hyn yn gwneud cartrefi’n gynhesach ac yn helpu cwsmeriaid i arbed arian ar filiau.

Gofal Ychwanegol Llys Ton – Siafft lifft newydd

  • Ar hyn o bryd, dim ond un lifft sydd ar y safle, sy’n achosi problemau. Pan fydd y lifft newydd wedi’i osod, bydd yr un presennol yn cael ei uwchraddio.
  • Mae Penseiri Pentan wedi cael cyfarwyddyd i ddylunio a chyflawni’r prosiect hwn. Maent wrthi’n cwblhau lluniadau ar gyfer y cais cynllunio a fydd yn cael ei gyflwyno cyn bo hir.
  • Ar hyn o bryd, mae costau’r gyllideb yn £350k.

Grisiau allanol newydd

  • Rydym yn newid neu’n atgyweirio dros 50 o risiau allanol.
  • Bydd y gwaith yn digwydd ym Maes Y Felin, Wildmill; Suffolk Close a Lakeview Close, Porthcawl; Stryd Bethania, Maesteg; a Duffryn Place, Caerau.
  • Rydym hefyd yn atgyweirio grisiau a llwybrau cerdded mewn rhai fflatiau yn Fflatiau Llwynderw, Porthcawl.