Mae’r Tâl Gwasanaeth yn seiliedig ar amcangyfrif neu gyllideb yr ydym yn ei pharatoi bob blwyddyn ar gyfer yr holl gostau rhedeg sy’n ymwneud â’r ardaloedd cymunedol yn eich bloc chi. Gall y rhain gynnwys nifer o elfennau. Dyma restr o’r rhai mwyaf cyffredin:

  • cynnal a chadw stadau neu dirwedd – fel torri’r glaswellt, cynnal a chadw gerddi cymunedol, dyfrio ac ysgubo,
  • cynnal a chadw offer tân,
  • cynnal a chadw offer trydanol a mecanyddol,
  • gwaith atgyweirio a chynnal a chadw cyffredinol,
  • Yswiriant Adeiladau – Yn achos fflatiau, mae angen yswiriant adeiladau llawn o dan delerau’r brydles er mwyn cynnwys y risgiau sy’n berthnasol i’r datblygiad. Gallai risgiau yswiriant safonol gynnwys tân, ffrwydrad, mellt, awyrennau, terfysgaeth, storm neu lifogydd, system chwistrellu yn gollwng, tir yn suddo neu dirlithriad ac ati,
  • ffi reoli,
  • taliadau banc a ffioedd archwilio.

Pryd mae cyfrifon diwedd blwyddyn yn  cael eu paratoi? 

Bydd cyfrifon incwm a gwariant am y cyfnod 1 Ebrill – 31 Mawrth yn cael eu paratoi 6 mis wedi i’r flwyddyn ariannol ddod  i ben.

Mae’r tâl gwasanaeth a godir am flwyddyn benodol yn seiliedig ar amcangyfrif o gostau, felly mae perchnogion yn talu tâl gwasanaeth sydd wedi cael ei amcangyfrifo. Unwaith y bydd y costau gwirioneddol ar gyfer blwyddyn gyfrifo’r tâl gwasanaeth wedi cael eu gweithio allan, cânt eu rhoi yn erbyn y costau amcangyfrifedig i sefydlu a oedd gwarged neu ddiffyg yn y taliadau.

Mae’r gwahaniaeth rhwng y costau gwirioneddol a’r costau amcangyfrifedig yn cynrychioli’r addasiad i’r tâl gwasanaeth. Mae hyn wedyn yn cael ei ychwanegu at gyfrif tâl gwasanaeth pob perchennog ar ffurf credyd lle mae arian dros ben ar gyfer y flwyddyn neu  fel debyd os oes diffyg ariannol. Mae’n gyfamod ym mhob Prydles bod yr addasiad i’r tâl gwasanaeth yn cael ei dalu ar unwaith pan dderbynnir cais i wneud hynny. 

Talu eich tâl gwasanaeth

Bydd lesddeiliaid yn cael cyfrifon tâl gwasanaeth blynyddol ym mis Medi bob blwyddyn. Bydd eich bil yn cynnwys dadansoddiad o’r gwir daliadau sy’n daladwy, yswiriant adeiladau, ffi rheoli a chyfran o unrhyw waith atgyweirio a gafodd ei wneud ar eich bloc ar gyfer y cyfnod a nodwyd.

Bydd yr amcangyfrif o’r tâl gwasanaeth yn cynnwys anfoneb ffurfiol y mae’n rhaid ei thalu’n llawn pan dderbynnir cais i wneud hynny. Os na fedrwch dalu’r balans yn llawn, gall telerau talu hyblyg fod ar gael (am gyfnod o 12 mis o ddyddiad derbyn yr anfoneb).

Bydd anfoneb ar wahân yn cael ei hanfon ar gyfer gwaith mawr ar y bloc a hynny fel a phryd y bydd yn cael ei gwblhau. Yn yr achos hwn, gall telerau talu hyblyg estynedig fod ar gael. Efallai y bydd gofyn i chi gwblhau holiadur incwm a gwariant i asesu eich amgylchiadau ariannol. Mae eich cyfraniad tuag at waith atgyweirio a gwaith mawr yn cael ei gyfrifo’n unol â thelerau eich prydles ac fel arfer mae’n cael ei rannu’n gyfartal rhwng nifer y fflatiau yn y bloc. Os ydych chi’n isosod yr eiddo, efallai y bydd cyfyngiadau ar y telerau talu hyblyg. Gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas ag incwm rhent ac fel arfer, bydd angen talu’r swm llawn ar unwaith pan dderbynnir cais i wneud hynny.

Mae hyn oherwydd bod derbyn incwm rhent ar gyfer y fflat yn cael ei ystyried fel gweithred fasnachol. Os na fedrwch dalu’r swm llawn, efallai y bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth resymol i gefnogi eich bod wedi methu â chael credyd i dalu’r biliau hynny nad ydynt wedi cael eu talu.

Gweithio allan y ffioedd gwasanaeth

Mae’r flwyddyn ariannol yn rhedeg rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth ac mae amcangyfrifon tâl gwasanaeth fel arfer yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror. Mae’r tâl gwasanaeth yn daliad ymlaen llaw, sy’n cael ei alw’n daliad interim neu fel arall, gallwch sefydlu debyd uniongyrchol misol. 

Mae’r taliadau gwasanaeth rydych chi’n eu talu yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a gwir gost y gwasanaethau rydych chi’n eu derbyn. Bob blwyddyn, rydym ni’n asesu faint yr ydym yn disgwyl ei wario ar ddarparu gwasanaethau i’ch eiddo. Mae hyn yn seiliedig ar amcangyfrif o’r costau ac mae’n cynnwys chwyddiant ac yn adlewyrchu’r costau y mae ein contractwyr yn eu codi. 

Yna, caiff y costau eu rhannu fel a ganlyn:

  • rhwng y cwsmeriaid hynny sy’n derbyn y gwasanaeth, neu
  • yn ôl arwynebedd llawr pob fflat, neu
  • gan nifer yr eiddo ym mhob bloc o fflatiau, neu
  • gan nifer yr eiddo o fewn pob uned llety arbenigol/penodedig.

Rydym yn adolygu ein costau gwasanaeth yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn darparu gwerth am arian, ac i sicrhau bod ein taliadau yn parhau i fod mor gywir â phosibl.

Mae eich prydles yn dweud y byddwch yn talu cyfran gymesur o gostau’r gwasanaethau, Felly, os yw eich fflat mewn bloc o 10 a’n bod ni yn glanhau’r ardal gymunedol, byddwch yn talu 1/10fed rhan o’r gost. Mae’r holl gostau gwasanaeth yn cael eu rhannu’n gyfartal yn y modd yma.

Os yw gwir gost y gwasanaeth ar ddiwedd y flwyddyn yn uwch neu’n is na’r amcangyfrif, ni ellir newid y tâl. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd y tâl yn cael ei newid y flwyddyn ganlynol er mwyn sicrhau bod cost lawn y gwasanaeth yn cael ei adennill gan gwsmeriaid

Tâl Gwasanaeth Amrywiol: Gall y tâl hwn amrywio ac fe’i gosodir ar ddechrau’r flwyddyn, yn seiliedig ar amcangyfrif o gost y gwasanaeth.

Ffi Reoli

Nodir Ffi Reoli ar gyfer y datblygiad hwn yn y dadansoddiad o’r tâl gwasanaeth ac mae’n cynyddu bob blwyddyn. Mae’r ffioedd hyn ffurfio rhan o’r costau tâl gwasanaeth sy’n daladwy gan y lesddeiliad.  

Yn ogystal â’r ffi rheoli, mae’n bosib codir ffi oruchwylio bellach o 10% + TAW mewn perthynas â gwaith atgyweirio (os yn berthnasol) a chynnal a chadw nad yw wedi ei gynnwys yn y contractau blynyddol, er enghraifft, Gwaith Mawr 

Y ffi, neu’r tâl rheoli am eich eiddo yw’r swm rydych chi’n ei dalu tuag at gost y gwasanaethau a ddarperir gennym ac sydd wedi’u rhestru isod.

  • Casglu taliadau gwasanaeth a gweinyddu cyfrifon lesddeiliaid.
  • Rheoli credyd ac adennill ôl-ddyledion.
  • Cyngor a chefnogaeth gan dîm Money Matters i lesddeiliaid preswyl.
  • Anfon datganiadau o wariant gwirioneddol at bob perchennog.
  • Gweithio allan y taliadau amcangyfrifedig am y flwyddyn ganlynol, a chynghori perchnogion.
  • Gweinyddu cofnodion, gwirio a phrosesu anfonebau ar gyfer gwariant stad ac/neu floc.
  • Delio gyda phapurau cyfreithiol pan mae perchnogion yn gwerthu eu cartrefi i rywun arall.
  • Gweithio allan y taliadau am waith mawr ac anfon biliau i berchnogion.
  • Ateb ymholiadau gan berchnogion am daliadau gwasanaeth, taliadau am waith mawr, opsiynau talu, ac ati.
  • Monitro contractau cynnal a chadw a glanhau stadau, a delio ag ymholiadau/cwynion.
  • Delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chwynion cymdogion; gweithredu fel cyfryngwr lle bo angen.
  • Delio ag achosion o dorri prydles.
  • Mynychu cyfarfodydd ymgynghori ar gyfer gwaith mawr a gwaith trwsio wedi’i gynllunio.
  • Trefnu ar gyfer gwaith trwsio cymunedol neu strwythurol.
  • Archwilio atgyweiriadau i ardaloedd cymunedol, ffensio, meysydd parcio, ac ati.
  • Gorbenion: swyddfa, TG, cerbydau fflyd, depo, ac ati.
  • Trefnu yswiriant y bloc y mae eich fflat chi ynddo; delio gyda hawliadau yswiriant.

Sut ydych chi’n penderfynu pwy sy’n gorfod talu tâl gwasanaeth?

Bydd pob lesddeiliad sy’n cael gwasanaeth gan Cymoedd i’r Arfordir yn gorfod talu eu cyfran gymesur nhw o gost y gwasanaethau hyn – mae eich prydles yn dweud bod cyfrifoldeb arnoch i’w dalu.

Pam fod fy nhâl gwasanaethau wedi newid o gymharu â blynyddoedd blaenorol?

Rydym ni’n adolygu’r modd yr ydym yn darparu gwasanaethau i lesddeiliaid. Fe wnaethom ddarparu rhai gwasanaethau am ddim yn y gorffennol; cafodd eraill eu cynnwys dan y pennawd ‘Tâl Gwasanaeth Cyffredinol’ ar eich amcangyfrifon. Lle rydym yn darparu gwasanaeth, rhaid i ni godi amdano oherwydd ni fedrwn  sybsideiddio lesddeiliaid.

Sut ydw i’n gwybod fy mod i’n cael gwerth am arian?

Rydym yn gweithio’n galed bob blwyddyn i adolygu’r gwasanaethau rydym ni’n eu darparu er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion pob un o’r trigolion. Rydym yn defnyddio ein pŵer prynu swmp (‘bulk’) i sicrhau ein bod yn sicrhau’r prisiau gorau posibl ar gyfer ynni a chyflenwadau eraill.

Beth os na allaf fforddio talu’r taliadau ychwanegol hyn?

Os ydych yn byw mewn fflat lesddaliadol, gallwch gael cyngor am ddim a help gan ein tîm Money Matters. Gwybodaeth am sut i gysylltu â nhw yma.

Os ydych yn Landlord Buddsoddi ac yn rhentu eich fflat lesddaliadol, gallwch gael cyngor gan:

Sut ydych chi’n delio ag ôl-ddyledion?

O dan gytundeb prydles, perchnogion sy’n gyfrifol am y taliadau gwasanaeth talu a chostau cysylltiedig eraill. 

 Bydd amcangyfrif yn cael ei ddarparu ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, ac mae’n rhaid gwneud trefniant dros dro

  • i’w dalu’n llawn, neu 
  • mewn rhandaliadau misol. 

Caiff lesddeiliaid gynnig i dalu bob mis drwy ddebyd uniongyrchol heb unrhyw gost ychwanegol, taliadau uniongyrchol i’n swyddfeydd neu gerdyn talu yn y swyddfa bost. 

Gofynnwn i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl os na fedrwch wneud taliad fel y gellir dod i gytundeb i atal dyled ar eich cyfrif. 

Bydd y camau canlynol yn cael eu cymryd pan fydd dyled ar eich cyfrif:

ÔL-DDYLEDION MIS

Os collir taliad, byddwn yn ysgrifennu llythyr neu’n anfon e-bost atoch i ddweud nad ydym wedi derbyn taliad a gofyn i chi glirio’r balans. Os oes gennych anawsterau ariannol, gellir gwneud cytundeb i glirio’ch ôl-ddyledion o fewn cyfnod o 3 – 6 mis

ÔL-DDYLEDION DAU FIS

Os oes dyled o fwy na dau fis ar eich cyfrif, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud bod rhaid dod i gytundeb neu gynnal cytundeb ac yn manylu ar y camau y gallwn eu cymryd i adennill yr ôl-ddyledion.   Bryd hynny, bydd tâl gweinyddu o £10 yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif.

ÔL-DDYLEDION TRI MIS

Os oes dyled o fwy na thri mis ar eich cyfrif, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud bod rhaid dod i gytundeb neu fel arall, bydd yr opsiwn o dalu bob mis yn cael ei dynnu’n ôl.  Bydd tâl gweinyddu o hyd at £25 yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif bob tro y byddwn yn anfon llythyr atoch.

ÔL-DDYLEDION CYSON

Os byddwch yn methu â gwneud taliadau neu gytuno i glirio balans eich cyfrif, gall Cymoedd i’r Arfordir gyfarwyddo cyfreithwyr fel rhan o’n proses adennill dyledion mewn achosion ble mae trigolion yn methu â chyflawni eu rhwymedigaethau o dan delerau’r brydles a bydd yn gyfrifol am yr holl gostau cysylltiedig.  Gweler isod grynodeb o’r taliadau.

Oni fyddwch wedi cysylltu â ni neu os byddwch wedi anwybyddu cytundeb, efallai y byddwn yn cysylltu â’ch benthyciwr morgais ac yn gofyn iddyn nhw dalu’r balans sy’n ddyledus ar y cyfrif ar eich rhan. Dim ond pan fyddwch chi wedi methu â glynu wrth gytundeb neu heb gysylltu â ni fyddwn ni’n gwneud hyn.  

Enghraifft o daliadau Gweinyddu (Heb gynnwys TAW):

Llythyr ôl-ddyledion cychwynnol £10.00
Ail lythyr ôl-ddyledion £25.00
Hysbysiad ynghylch siec sydd heb ei ddychwelyd neu ddebyd Uniongyrchol  £10.00
Llythyr Cyfreithwyr ar gyfer Gweithredu  £50.00
Achos llys  £80.00
Camau gorfodi  £250.00