Gallwch wneud taliad ar-lein. I wneud hynny, gwnewch yn siŵr bod gennych eich cyfeirnod talu AllPay.
Mae hon yn ffordd gyflym a hawdd iawn o’n talu. Ar ôl ei sefydlu, bydd arian yn cael ei dalu i ni’n uniongyrchol o’ch banc ar ddyddiad sy’n gweddu orau i chi. Ffoniwch ni gyda’ch manylion banc ar: 0300 123 2100.
Sylwch fod eich taliadau wedi’u diogelu gan y Warant Debyd Uniongyrchol.
Mae hyn yn caniatáu i ni gasglu eich rhent o’ch cerdyn banc gyda’ch caniatâd. Ffoniwch ni gyda’ch manylion banc ar: 0300 123 2100.
Byddwch yn derbyn e-bost neu neges destun fel cadarnhad o’ch taliad.
Lawrlwythwch yr ap Allpay yn uniongyrchol ar eich dyfais symudol a gwnewch daliadau wrth fynd. Chwiliwch ‘Allpay’ ar Apple Store, Windows Phone Store neu Google Play.
Gallwch wneud taliad cerdyn debyd neu gredyd drwy roi galwad i ni ar: 0300 123 2100. Os ydych yn galw ar ôl 5pm, neu ar y penwythnos, dewiswch Opsiwn 2.
Mae ein Partneriaid Incwm Cymunedol yma i’ch helpu i ddod yn ôl ar y trywydd iawn.
Byddant yn cael sgwrs gyfeillgar gyda chi i ddeall beth sy’n digwydd a dod o hyd i’r ffordd orau o’ch cefnogi.
Gallant eich helpu i wneud y gorau o’ch arian drwy wirio a ydych yn cael yr holl
fudd-daliadau y dylech fod yn eu cael a’ch helpu i ddod o hyd i unrhyw grantiau
ychwanegol y gallech fod yn gymwys i’w cael. Byddant yn gweithio gyda chi i bennu
cynllun talu y gallwch ei fforddio. Os yw pethau ychydig yn fwy cymhleth, gallant
eich cyfeirio i’r cyfeiriad cywir am gyngor ariannol arbenigol.
Ein prif nod yw gweithio gyda chi i ddatrys pethau, gan eich helpu i deimlo mwy o
reolaeth dros eich arian ac aros yn eich cartref.
Dewch o hyd i’ch Partner Incwm Cymunedol a chysylltwch ag ef yma, neu os ydych yn
ansicr am rywbeth, ffoniwch ein tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0300 123 2100.