Dylech bob amser gyfeirio at eich prydles am fanylion am eich hawliau a’ch rhwymedigaethau ond fel canllaw cyffredinol, caiff y prif bwyntiau perthnasol eu crynhoi isod.

Taliadau gwasanaeth

Rhaid i chi dalu eich siâr o gostau rheoli a chynnal eich adeilad. Mae hon yn ddyletswydd gyfreithiol a nodir yn eich prydles. Os nad ydych yn talu eich siâr, rydych yn torri eich cytundeb prydles. 

Byddwn bob amser yn deg am daliadau gwasanaeth. Byddwn yn egluro’r modd y maent yn cael eu gweithio allan, a gallwch herio unrhyw daliadau nad ydych yn cytuno â nhw. 

Rhaid i chi dalu eich tâl gwasanaeth blynyddol (gan gynnwys y rhent tir, premiwm yswiriant yr adeiladau a’r ffi rheoli) yn brydlon ar yr adeg y mae’r taliad yn ddyledus.

Gwaith cynnal a chadw, atgyweirio a gwella

Rhaid i chi gyfrannu tuag at y costau sy’n gysylltiedig ag  atgyweirio a chynnal a chadw’r strwythur ac ardaloedd allanol a chymunedol eich bloc. Mewn rhai achosion, efallai y bydd gofyn i chi hefyd gyfrannu tuag at gost gwaith gwella (cyfeiriwch at y telerau yn eich prydles).

Mae gennych hawl i ddisgwyl i Cymoedd i’r Arfordir gynnal a chadw ac atgyweirio prif strwythur yr adeilad a rheoli’r rhannau cyffredin.

Ymgynghoriad 

Yn unol â’ch hawl gyfreithiol, dylid ymgynghori â chi cyn i unrhyw waith mawr gael ei wneud neu i unrhyw gytundebau hirdymor gael eu sefydlu (a fydd yn effeithio ar eich bloc).

Yswiriant Adeiladau 

Bydd Cymoedd i’r Arfordir yn yswirio’ch fflat am y gwerth ailadeiladu llawn. Mae lesddeiliad yn gyfrifol am drefnu yswiriant cynnwys. Caiff hwn ei gynnwys yn eich tâl gwasanaeth blynyddol.

Cyfrifon 

Mae Cymoedd i’r Arfordir yn gyfrifol am gadw cyfrifon priodol o’ch taliadau gwasanaeth. Byddwn yn eich anfonebu’n flynyddol ac yn rhoi gwybodaeth i chi am y modd y cafodd eich taliadau gwasanaeth eu gweithio allan.

Gwerthu’r fflat 

Mae gennych hawl i werthu’r fflat pryd bynnag ac i bwy bynnag yr ydych yn ei ddymuno ar yr amod bod cyfamodau’r brydles yn  cael eu bodloni. Rhaid i chi roi gwybod i’ch Tîm Perchnogaeth Cartref os ydych yn gwerthu’r fflat.

Isosod 

Fe gewch chi isosod y fflat ond rhaid i chi gael caniatâd a llenwi ffurflen isosod. Efallai y bydd raid i chi dalu ffioedd gweinyddu ychwanegol.

Cadw’r fflat mewn cyflwr da

Rhaid i chi drwsio a chadw’r tu mewn i’ch fflat ynghyd â’r ffitiadau a’r gosodiadau mewn cyflwr da; gan gynnwys pob wal, carthffosydd, draeniau a cheblau sy’n rhan o’r eiddo sydd wedi ei brydlesu.

Addasiadau neu ychwanegiadau strwythurol 

Rhaid i chi beidio â gwneud unrhyw addasiadau neu ychwanegiadau strwythurol i’r fflat heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

Mynediad i’ch eiddo 

Rhaid i chi ganiatáu i staff Cymoedd i’r Arfordir neu ei gynrychiolwyr a’i bartneriaid cysylltiedig ddod i mewn i’ch fflat i wneud gwaith trwsio yn eich eiddo neu safleoedd cyfagos (gyda rhybudd rhesymol)

Cynnal a chadw’r gerddi 

Dylai eich prydles gynnwys cynllun lliw sy’n diffinio ffin eich fflat ac unrhyw rannau o ardd neu lecyn allanol sydd at eich defnydd chi yn unig. Chi sy’n gyfrifol am atgyweirio a chynnal a chadw’r ardaloedd hyn

Ardaloedd cymunedol 

Mae’n rhaid i chi gadw mannau cymunedol yn glir o unrhyw rwystr – ni chaniateir i chi storio sbwriel neu eitemau personol yn yr ardaloedd hyn.

Bod yn gymydog da 

Mae gennych hawl i ‘fwynhad tawel’ o’ch cartref, sy’n golygu na fyddwn yn ymyrryd gyda’r eiddo yn ddiangen neu’n afresymol ac mae gan eich cymdogion yr un hawl.

Rhaid i chi beidio â gwneud unrhyw beth sy’n achosi niwsans i’ch cymdogion gan gynnwys ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu achosi sŵn gormodol. Efallai y bydd pobl yn byw uwchben neu oddi tanoch i chi, ac efallai y bydd yn rhaid i chi rannu landin ac ardaloedd eraill. Byddwn yn ceisio delio â phobl sy’n achosi niwsans i chi, ond yn yr un modd, ni ddylech chi achosi niwsans iddyn nhw.

Rydych yn gyfrifol am eich ymddygiad eich hun ac am ymddygiad ymwelwyr i’ch cartref.

Defnydd a fwriadwyd

Rhaid i chi ddefnyddio’r fflat fel annedd breifat yn unig (ac nid at ddibenion busnes) ac ni ddylech wneud unrhyw beth a all annilysu neu ddiddymu’r polisïau yswiriant.

Anifeiliaid anwes

Ni ddylech gadw unrhyw anifeiliaid anwes gan gynnwys cŵn, cathod neu adar yn y fflat neu’r ardd heb gael caniatâd y Landlord yn y lle cyntaf.  Cysylltwch â ni os ydych chi’n ystyried cael anifail anwes.

Ymestyn Prydlesi Lesddeiliaid Tymor Hir 

Mae gan Lesddeiliad Tymor Hir (ar gyfer prydlesi dros 21 mlynedd) hawl statudol i ymestyn eu Prydles os ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Codir premiwm arnoch i ymestyn eich Prydles. Mae hon yn broses ffurfiol gydag amserlen gaeth. 

Os byddwch yn ymestyn y Brydles, byddwch fel arfer yn cael 90 mlynedd ychwanegol at weddill tymor eich Prydles bresennol ac mae mwy o oblygiadau ariannol os byddwch yn ymestyn eich prydles pan fydd llai nag 80 mlynedd yn weddill arni. Gall hefyd fod yn anoddach i chi aseinio’ch Prydles os oes llai nag 80 mlynedd yn weddill arni oherwydd nid yw rhai Benthycwyr Morgais yn fodlon benthyg yn erbyn y Prydlesi hyn.

I gael mwy o wybodaeth am Ymestyn Prydles, ewch i’r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau, cysylltwch â Chyfreithiwr neu cysylltwch â’r Tîm Perchnogaeth Cartref.

Hawl i Reoli a Rhyddfreinio ar y Cyd

Mewn rhai amgylchiadau, gall grŵp o Lesddeiliaid naill ai gymryd arnynt y cyfrifoldeb o reoli  eu hadeilad neu brynu’r Rhydd-ddaliad gan Cymoedd i’r Arfordir (gelir hyn yn Rhyddfreinio ar y Cyd) er mwyn rheoli’r adeilad eu hunain. Mae’r rhain yn brosesau cyfreithiol a bydd angen cyfarwyddo Cyfreithiwr. Yr un modd ag Ymestyn Prydles, mae meini prawf llym yn gysylltiedig â’r ddau bosibilrwydd hyn. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â hyn, ewch i wefan Lease www.lease-advice.org neu cysylltwch â Chyfreithiwr neu’r Tîm Perchnogaeth Cartref.

Cyfrifoldebau Perchnogaeth

Fel lesddeiliad, fe ddewch, i bob pwrpas, yn ‘gyfranddaliwr’ yn y bloc yr ydych chi’n byw ynddo. Mae hyn yn golygu bod cyfrifoldeb arnoch i dalu eich cyfran chi o’r costau sy’n gysylltiedig â rheoli a chynnal a chadw eich bloc. Mae dyletswydd gyfreithiol ar eich landlord (V2C) i godi arnoch eich cyfran chi o’r costau, ac mae dyletswydd gyfreithiol arnoch chi i’w talu.