Eich cofnodion

Dylai enw deiliaid y cyfrif bob amser fod yr un fath ag enwau perchnogion cofrestredig yr eiddo. Felly, mae’n bwysig bod unrhyw newid yn ein cofnodion yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth gyfreithiol sy’n nodi’r newid: er enghraifft, tystysgrif priodas neu weithred newid enw. Os mai cwmni yw’r perchennog cofrestredig, dylid darparu tystiolaeth o unrhyw newid yn enw’r cwmni ar ffurf tystysgrif o newid enw. 

Os ydych yn ansicr, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol gan gyfreithiwr.

Gwerthu eich Cartref

Mae’n bwysig bod Cymoedd i’r Arfordir yn cael gwybod cyn gynted ag y byddwch chi’n penderfynu gwerthu’ch eiddo. Bydd cyfreithwyr sy’n cynrychioli’r prynwr a’r gwerthwr yn gofyn am wybodaeth yn ymwneud â thâl gwasanaeth a materion yn ymwneud â’r Brydles.

Rhaid Cymoedd i’r Arfordir gymeradwyo’r darpar breswylwyr ac mae angen eu caniatâd cyn cyfnewid contractau, felly mae’n bwysig eich bod chi neu’ch cyfreithiwr yn cysylltu â Cymoedd i’r Arfordir cyn gynted ag y byddwch yn penderfynu gwerthu. 

Byddwch chi’n gyfrifol am ddarparu Pecyn Gwybodaeth am y Cartref. Byddwch yn gyfrifol am ddarparu’r wybodaeth ganlynol yn y pecyn hwn:

  • Copi o’r brydles
  • Enw a chyfeiriad y landlord a’r asiant rheoli
  • Rheolau a rheoliadau sy’n ymwneud â rheoli’r eiddo
  • Cyfrifon neu grynodebau o’r costau am y tair blynedd diwethaf
  • Y cais diweddaraf am rent tir, tâl gwasanaeth ac yswiriant
  • Crynodeb o waith sy’n effeithio’r eiddo
  • Adroddiad effeithlonrwydd ynni

Os ydych yn penodi gwerthwr tai, chi fydd yn gyfrifol am y costau cysylltiedig. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd RHAID i’ch gwerthwr tai  ofyn am ganiatâd cyn codi arwyddion yn yr ardal gymunedol neu ar yr adeilad.

Fy Materion Cyfreithiol (Link opens in new window)

I gael gwybodaeth am isosod, newid perchnogaeth neu enw, marwolaeth perchennog, gwerthu neu ail-forgeisio, ewch i Fy Materion Cyfreithiol.