Rydym am wneud yn siŵr bod eich cartref yn saff, yn gyfforddus ac yn ynni-effeithlon. Dyna pam rydym yn dilyn Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) – set o reolau sy’n ein helpu i gadw cartrefi i safon uchel.
Dyma beth mae’n ei olygu!
Beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Mae SATC yn gwneud yn siŵr:
- Bod eich cartref yn saff – mae hyn yn cynnwys drysau a ffenestri diogel, systemau nwy a thrydan saff, a larymau tân sy’n gweithio.
- Bod eich cartref yn gynnes ac yn ynni-effeithlon – dylai’r system wresogi weithio’n dda, dylai’r inswleiddiad gadw’r gwres i mewn, ac efallai gellir gosod mesuryddion clyfar i helpu i reoli’r defnydd o ynni.
- Bod eich cegin a’ch ystafell ymolchi yn bodloni safonau modern – dylai ceginau fod â digon o le a socedi, a dylai ystafelloedd ymolchi fod â lloriau addas a bath neu gawod o leiaf.
- Bod gennych ddigon o le i fyw’n gyfforddus. Dylai fod lle ar gyfer gweithgareddau bob dydd, lloriau da, a llai o sŵn lle bo hynny’n bosibl.
- Bod mannau awyr agored yn hygyrch ac yn ddiogel – os oes gardd gan eich cartref, dylai fod yn ddefnyddiadwy a chael llwybr diogel. Efallai y bydd lle storio diogel ar gael hefyd.
Sut rydym yn gwirio hyn?
Pan fydd cartref yn cael ei osod, rydym yn asesu a yw’n bodloni’r safon. Os nad yw unrhyw ran o’r cartref yn bodloni’r SATC eto, byddwn yn:
- Egluro beth sydd angen ei wella.
- Rhoi gwybod i chi pryd y byddwn yn gwneud y gwaith.
- Gwneud yn siŵr bod eich cartref yn saff ac yn gyfforddus yn y cyfamser.
Gwyliwch sut rydym yn gwneud hyn:
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi
Os ydych yn symud i mewn i gartref, byddwn yn darparu datganiad o gydymffurfedd sy’n egluro sut mae eich cartref yn bodloni’r SATC ac unrhyw welliannau sydd wedi’u cynllunio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y SATC neu os hoffech wybod mwy am statws eich cartref, cysylltwch â ni. Rydym yma i helpu!