Mae’r deddfau newydd gan Lywodraeth y DU ynglŷn â pherchnogaeth cŵn XL Bully ar fin dod i rym, felly hoffem atgoffa ein cwsmeriaid am y deddfau newydd. Rydym yn deall bod llawer ohonoch yn berchen ar anifeiliaid anwes ac rydym bob amser wedi croesawu anifeiliaid anwes yn ein cartrefi cyhyd â’u bod yn cadw at delerau ein contract (gweler isod). Ond gan fod y deddfau newydd yn dod i rym eleni yng Nghymru a Lloegr, efallai bydd rhaid i rai cwsmeriaid weithredu.

Gan fod y brîd XL Bully wedi cael ei ychwanegu at y rhestr o gŵn a waherddir dan y Ddeddf Cŵn Peryglus (1991) ar 31 Hydref 2023, mae gan berchenogion y brîd tan Ganol Dydd, 31 Ionawr 2024 i wneud cais am Dystysgrif Eithrio. Fel rhan o’r broses eithrio, mae ffi o £92.40 yn daladwy am bob ci ac mae’n rhaid rhoi mesurau ychwanegol yn eu lle (yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i niwtro a microsglodynnu eich ci). Gallwch weld rhestr lawn o’r gofynion ynghylch perchnogaeth cŵn XL Bully ar wefan y Llywodraeth.

Hoffem hefyd atgoffa ein cwsmeriaid bod rhaid cadw cŵn XL Bully ar dennyn ac yn gwisgo safnffrwyn mewn mannau cyhoeddus o 31 Rhagfyr 2023 – mae hyn yn cynnwys mannau cymunol yn eiddo Cymoedd i’r Arfordir.

Polisi Cymoedd i’r Arfordir ar Berchnogaeth Anifeiliaid Anwes

Dyma ddetholiad o’n cytundebau tenantiaeth ynghylch perchnogaeth anifeiliaid anwes:

Anifeiliaid Anwes (A)

16H. (1) Ni chewch gadw unrhyw anifail os penderfynwn ninnau ei fod yn anaddas i’ch cartref. Os nad ydych yn siŵr p’un ai fod anifail yn addas, gofynnwch i ni.

(2) Ni chaiff eich anifeiliaid anwes gythruddo, dychrynu neu achosi niwsans i bobl eraill ac mae’n rhaid i chi eu cadw dan reolaeth bob amser. Ni chewch adael i’ch anifail faeddu mannau a rennir a mannau cyhoeddus.

(3) Ni chewch gadw mwy na nifer resymol o anifeiliaid anwes. Pan fyddwn yn ystyried beth yw nifer resymol, byddwn yn ystyried y gymdogaeth, math a maint eich cartref, nifer y bobl sy’n byw yn eich cartref, a math a maint eich anifail anwes.


(4) Os ydych yn cadw cŵn a ystyrir yn beryglus dan y Ddeddf Cŵn Peryglus (1991), mae’n rhaid bod gennych dystysgrif eithrio.

(5) Ni chewch gadw unrhyw anifail anwes mewn amgylchiadau brwnt, gwael.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol am waharddiad a pherchnogaeth cŵn XL Bully

Cofrestrwch ar gyfer Tystysgrif Eithrio 

I gael adnoddau ychwanegol ar gŵn XL Bully a hyfforddiant safnffrwyn, gall y sefydliadau lles anifeiliaid canlynol gynnig cymorth:

  • Y Groes Las
  • Yr Ymddiriedolaeth Cŵn
  • PDSA
  • Cartref Cŵn a Chathod Battersea