Bob tri mis, rydym yn bwrw golwg ar ein perfformiad o gymharu â’n hamcanion.

Trefnir y rhain mewn ‘chwarteri’ drwy gydol ein blwyddyn ariannol, sy’n dechrau yn Ebrill ac yn dod i ben ar ddiwedd Mawrth.

Bwriwch olwg ar ein perfformiad hyd yma…

Crynodeb o’n perfformiad ar gyfer Chwarter Un 2023-24 (Ebrill-Mehefin)

Yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn ariannol newydd (2023-2024), mae’n bleser gennym ni adrodd am welliannau mewn nifer o feysydd o’n gwasanaethau.

Rydym hefyd wedi talu sylw i feysydd y mae angen eu gwella ac rydym yn cymryd camau gweithredu mewn sawl maes, gan gynnwys ein heiddo gwag. Rydym wedi cofnodi 90 eiddo gwag yn Chwarter 1, sef 20 yn uwch na’n targed. Mae hyn, ar y cyd â’r amseroedd ailosod cyfartalog – sef ychydig dros 100 diwrnod ar hyn o bryd – wedi arwain at ddatblygu Prosiect Gwella Eiddo Gwag er mwyn adolygu’r broses a chynnig ffyrdd newydd o weithio i greu gwelliannau hirdymor.

Ym meysydd eraill y busnes, mae’n bleser gennym ni gyrraedd ein targed o gwblhau 10 cartref newydd yn ystod y chwarter, gan gynnwys dau ar ein safle Llanmoor ac wyth ar ein safle Brocastle. Yn ystod Chwarter 1, hefyd adeiladwyd 76 o gartrefi newydd sbon, sy’n uwch na’r targed.

Rydym ychydig y tu ôl i le yr hoffem fod yn nhermau ein buddsoddi mewn cartrefi presennol ond mae gennym ni sawl prosiect ar y gweill ac rydym yn anelu at eu cwblhau yn ystod Chwarter 2. O ran ein hatgyweiriadau o ddydd i ddydd, rydym yn parhau i brofi gwelliannau – ar gyfartaledd, rydym yn cyflawni atgyweiriadau mewn 9 diwrnod sy’n well na’n targed ac mae’n ein helpu i wella ein hôl-groniad atgyweiriadau sef 5,591 o achosion ar ddiwedd y chwarter.

Mae sicrhau bod ein cwsmeriaid yn Ddiogel ac yn Hapus yn un o’n prif amcanion ac, er ein bod yn profi nifer debyg o gwynion ag yr oeddem yn ystod cyfnodau adrodd blaenorol, rydym yn falch o roi gwybod i chi ein bod ni’n ymateb yn gyflymach ac mae mwy o gwynion yn cael eu datrys ar y pwynt cyswllt cyntaf. Mae atgyweiriadau yn parhau i fod yn brif ffocws cwynion gan gyfrif am 44% o’r holl gwynion.

Mae ein tîm incwm wedi bod yn gweithio’n galed i gefnogi ein cwsmeriaid ac mae’n bleser gennym ni helpu i roi dros £390,000 i mewn i bocedi cwsmeriaid trwy gymorth a dargedwyd gan ein tîm Materion Ariannol. O ganlyniad, mae ein hôl-ddyledion rhent oddeutu 2.5%, sy’n cyfateb i’r targed.

Yn olaf, yn nhermau iechyd a diogelwch, rydym yn parhau i wynebu heriau o ran cael mynediad at gartrefi i gynnal gwiriadau hanfodol, gan gynnwys ardystiadau nwy, profi trydanol ac asesiadau risg tân. Fodd bynnag, rydym yn gwneud cynnydd gwych o ran mynd i’r afael ag adroddiadau am leithder a llwydni. Rydym wedi cynnal arolygon ar 600 o gartrefi ac rydym wedi trefnu gwaith dilynol mewn 466 o gartrefi gan gyflawni bron traean o’r gwaith yn ystod y chwarter.

Crynodeb o’n perfformiad ar gyfer Chwarter Dau 2023-24 (Gorffennaf-Medi)

Yn ystod chwarter dau y flwyddyn ariannol, profwyd oedi o ran ein twf a gynlluniwyd ar gyfer y stoc tai gan fod 10 cartref yn llai na’n targed ar gyfer cartrefi newydd. Yn rhannol, roedd hyn yn ymwneud ag oedi o ran cartrefi ‘prynu yn ôl’ ac roedd angen gweithio ar y rhain er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon; a phrofwyd oedi o ran symud ein cynllun datblygu Malthouse yn ei flaen.

Er ein bod ni ar ei hôl hi o ran ein targedau ar gyfer eiddo gwag, mae ein rhaglen wella yn dechrau gwneud gwahaniaeth, mae nifer yr eiddo gwag hirdymor wedi gostwng ac nid yw’n cymryd mor hir i ni baratoi cartrefi gwag yn barod i’w hailosod – y cyfartaledd oedd 83 diwrnod yn ystod chwarter 2.

Rydym ar ei hôl hi o’i chymaru â ble byddwn ni’n disgwyl bod yn nhermau buddsoddi mewn gwaith mawr yn ystod Chwarter 2 ond rydym deirgwaith o flaen ble roedden ni yn ystod yr un cyfnod adrodd y llynedd, sy’n dangos gwella hirdymor. Am fod gennym nifer o gyflenwyr newydd, rydym yn disgwyl profi gwella parhaus yn y maes hwn wrth symud ymlaen.

 

Rydym yn parhau i berfformio yn uwch na’r targed o ran cyflawni atgyweiriadau a lleihau ein hôl-groniad atgyweiriadau. Ar gyfartaledd, cymerodd 14 diwrnod i gyflawni atgyweiriad (i fyny o 9 diwrnod yn ystod Chwarter 1), ond, ar ddiwedd y chwarter, mae ein hôl-groniad wedi gostwng i 3,476 sef 2,115 yn llai o atgyweiriadau sy’n aros o’i chymharu â’r chwarter blaenorol.

Rydym yn hapus iawn i weld ein bod wedi derbyn llai o gwynion. Mae hyn wedi cael ei gefnogi trwy ymyrraeth a dargedwyd a swyddog cwynion dynodedig yn gweithio i wella atgyweiriadau. Felly, er ei bod yn ymddangos ein bod wedi cymryd ychydig yn hirach i ymateb yn ystod y chwarter hwn, y rheswm am hynny yw ein bod wedi treulio amser yn cau hen achosion o gwyno sydd wedi gogwyddo’r data ychydig.

Mae enillion ariannol i gwsmeriaid yn parhau i orberfformio – rydym wedi helpu 385 o gwsmeriaid i wella eu hincwm yn ystod Chwarter 2 wrth i gymorth Credyd Cynhwysol, Budd-dal Tai a Thaliad Disgresiwn at Gostau Tai gyfrif am bron dwy ran o dair o’r atgyfeiriadau a dderbyniwyd gennym ni.

Yn nhermau iechyd a diogelwch, er bod gwaith i’w wneud o hyd, rydym yn dal i fyny. Ar ddiwedd y chwarter, roedd gennym ni 69 o gartrefi yr oedd angen tystysgrifau archwiliad trydanol arnynt, i lawr o 104 ar ddiwedd Chwarter 1. Ar ddiwedd Chwarter 2, roeddem wedi cynnal 704 o arolygon lleithder a llwydni a chodwyd 569 o achosion gwaith dilynol – cyflawnwyd 34% o’r rhain.

Unrhyw beth arall hoffech chi ei wybod? (Link opens in new window)

Ein nod yw bod mor agored ac onest â phosib, a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu unrhyw wybodaeth y gofynnwch amdani. Efallai y byddwch yn dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano yn Ein Cyhoeddiadau sy’n cynnwys datganiadau ariannol, ein dyfarniad rheoleiddio a hunanasesiad o’n cydymffurfiad.

Os oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ofyn, cysylltwch â ni!