Dros y 18 mis diwethaf, mae ein cydweithwyr wedi bod wrthi’n gweithio ar fenter anhygoel, sef cefnogi Y Bwthyn Newydd, gwasanaeth gofal lliniarol sy’n ymrwymedig i wella bywydau unigolion sy’n wynebu afiechydon difrifol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Diolch i haelioni a brwdfrydedd ein cydweithwyr, rydym wedi llwyddo i godi dros £5000 ar gyfer yr achos teilwng hwn.

Mae ein hymdrechion ar y cyd wedi cwmpasu amrywiaeth eang o weithgareddau, a phob un wedi cyfrannu at y llwyddiant nodedig hwn. O Daith Gerdded Calon y Cymoedd i werthiant mefus a hufen yn ystod Wimbledon, y gemau Nadoligaidd hwyliog a chwaraeom y llynedd, raffl yn Llys Ton, noson elusennol, Perfformiad Côr Dydd Gŵyl Dewi, Gwerthiant Cacennau’r Pasg, rhoddion Diwrnod Pizza, a’r raffl yn ein digwyddiad Diolch i gydweithiwr, mae pob ymdrech wedi chwarae rhan yn sicrhau llwyddiant ein mentrau elusennol.

Ond nawr, mae’n amser i ni droi tudalen newydd a dewis yr elusen fydd yn elwa ar ein cymorth yn ystod 2024. Fel o’r blaen, rydym yn galw am enwebiadau gan ein cwsmeriaid gwerthfawr a’n cymunedau lleol, gan roi cyfle i chi fod yn rhan o’r broses hon o wneud y penderfyniad.

Rydym yn eich gwahodd i rannu elusen gyda ni sydd â lle arbennig yn eich calon – elusen rydych yn credu ei bod wir yn haeddu ein cymorth. Ein nod yw casglu’r enwebiadau hyn a threfnu pleidlais ar y prif ddewisiadau yn ystod ein Briffio Busnes y Gaeaf i gydweithwyr ar 6 Rhagfyr. Trwy wneud hyn, rydym yn sicrhau bod yr elusen a ddewiswn yn y pen draw yn adlewyrchu ein dyheadau a’n gwerthoedd a rennir fel sefydliad sy’n ymrwymedig i gyflawni effaith cadarnhaol.

I sicrhau bod y broses enwebu mor hwylus â phosibl, rydym wedi pennu meini prawf ar gyfer elusennau cymwys. Dylai’r elusen fod ym Mhen-y-bont ar Ogwr, heb brif ffynhonnell arall o gyllid, a rhaid bod ganddi gorff llywodraethu swyddogol. Gallwch gyflwyno eich enwebiadau gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu hon.

Felly os oes gennych elusen sy’n agos at eich calon neu rydych yn rhan o sefydliad sy’n bodloni ein meini prawf, fe’ch gwahoddwn i gyflwyno eich enwebiadau. Pob lwc, a diolch!