Mae’r argyfwng costau byw wedi bod yn bryder cynyddol i lawer ohonoch, ac rydym yn ymrwymedig i
roi’r cymorth angenrheidiol i chi yn ystod yr amserau heriol hyn. Rydym yn llawn cynnwrf o gael
rhannu ein partneriaeth newydd gyda Chymru Gynnes i gyflwyno menter newydd a fydd yn eich helpu
gyda hyn.

Mae Cymru Gynnes yn sefydliad sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi tanwydd trwy gynnig cyngor a
chymorth am ddim i bobl ar draws Cymru trwy brosiectau cymunedol a gweithio mewn partneriaeth.
Yn ddiweddar maen nhw wedi partneru gyda ni i gynnig cymorth i’r rhai ohonoch sy’n cael anhawster i
dalu’r costau ynni cynyddol. Maent wedi pennu gweithiwr achos penodedig i ni a fydd yn cydweithio’n
agos gyda chi i liniaru effaith yr argyfwng hwn mewn amrywiol ffyrdd.


Dyma sut gall Cymru Gynnes helpu:


Ymgeisio ar gyfer Cynlluniau a Gyllidir gan Grant: Bydd ein gweithiwr achos yn eich arwain drwy’r
broses o ymgeisio am gynlluniau a gyllidir gan grant a all eich helpu gyda’ch treuliau ynni.


Gwybodaeth a Chyngor: Mae Cymru Gynnes yn gymwys i roi gwybodaeth a chyngor i chi am sut i
reoli eich defnydd o ynni’n fwy effeithlon. O newidiadau bach i’ch ffordd o fyw, i welliannau mwy
sylweddol, byddan nhw yno i’ch helpu.


Deall Biliau: Gall biliau ynni fod yn ddryslyd, ond bydd ein gweithiwr achos yn cynnig cymorth i
egluro’r datganiadau hyn. Byddant yn eich helpu i ddeall yr amrywiol gostau a ffioedd ac i ystyried
ffyrdd o’u lleihau.

Mynediad at Gynlluniau Disgownt: Gall Cymru Gynnes eich helpu i gyrchu cynlluniau disgownt, yn
cynnwys y Disgownt Cartrefi Cynnes a all leihau costau ynni yn sylweddol i’r rhai hynny sy’n gymwys.

Wrth i ni symud tuag at dymor yr Hydref/Gaeaf, rhagwelwn y gallech ei chael hi’n anodd talu eich
biliau ynni. Os felly, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’n Tîm Materion Ariannol drwy e-bost yn
moneymatters@v2c.org.uk. Byddant yn barod i ddechrau’r broses atgyfeirio a sicrhau eich bod yn
derbyn y cymorth sydd ei angen arnoch.


Yn ogystal, gallwch ofyn am gymorth yn uniongyrchol drwy ddilyn y ddolen hon:
https://sites.elementalsoftware.co.uk/app/WebObjects/ES-
QA.woa/cms/warm_wales_healthy_homes_registerstart.en


Rydym yn credu y bydd y bartneriaeth hon gyda Chymru Gynnes yn gwneud gwahaniaeth mawr i chi.
Gyda’n gilydd, gallwn helpu i leddfu’r baich ariannol sy’n ymgodi o’r argyfwng costau byw.