Yr wythnos hon, mae ein tîm ymroddgar wrthi eto’n curo ar ddrysau ledled Pen-y-bont ar Ogwr, gan barhau i gynnig cymorth ychwanegol i gwsmeriaid fel y gallant ddal i fyw yn ddiogel ac yn hapus yn eu cartrefi.

Dyma giplun o’r pethau maen nhw wedi’u darganfod hyd yma:

Diolch i chi, y 911 o gwsmeriaid sydd wedi llenwi ein harolwg yn barod. 

Rydym wedi dysgu bod rhai o’n cwsmeriaid yn cyfathrebu drwy Iaith Arwyddion Prydain yn unig. Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw gwella ein cefnogaeth i’r rhai sydd wedi colli eu clyw. Gallwch fod yn sicr ein bod wrthi’n gweithio ar wella mynediad i ddehonglwyr BSL.

Mae ein cymuned yn amrywiol, ac rydym yn croesawu hyn yn galonnog.


Rydym wedi nodi’r cwsmeriaid y mae eu hiaith gyntaf yn Bwyleg, ac rydym yn ymroi i wella ein cyfathrebu fel y gallwn eu gwasanaethu’n well.

Y grŵp oedran 55-64 yw ein demograffeg fwyaf. Rydym yn awyddus i ddeall sut mae’r grŵp oedran hwn eisiau derbyn ein gwasanaethau fel y gallwn gwrdd â’u hanghenion yn fwy effeithiol.

Diolch i bawb sydd wedi ymuno â ni ar y daith hon ac wedi agor eu drysau i’n tîm. Bydd eich cefnogaeth, adborth a’ch gwybodaeth yn ein helpu i lunio ein gwasanaethau yn y dyfodol.

Gyda’n gilydd, rydym nid yn unig yn adeiladu cartrefi, rydym yn adeiladu cymuned lle gall pawb ffynnu, ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau.