Yn dilyn cyfnod o ymgynghori ac ymgysylltu â thenantiaid, mae Bwrdd Cymoedd i’r Arfordir wedi penderfynu dechrau’r broses o gau Dinam Close, Nantymoel, fel llety pobl hŷn.
Nawr, bydd trafodaethau’n cael eu cynnal gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a phartneriaid eraill, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, i archwilio’r opsiynau ar gyfer ailddatblygu’r safle i ddarparu tai cymdeithasol newydd yn unol â’r galw lleol.
Bydd unrhyw ailddatblygu yn amodol ar sicrhau cyllid, astudiaethau safle a chynllunio, ynghyd ag ymgysylltu â’r gymuned leol.
Bydd tenantiaid presennol Dinam Close yn cael pob cymorth i ddod o hyd i lety arall addas – byddwn yn archwilio’r holl opsiynau yn cynnwys cynnal sgyrsiau gyda Chymdeithasau Tai eraill i gefnogi’r rhai hynny sydd eisiau parhau i fyw yn Nantymoel, neu yn yr ardal.
Byddwn yn cymryd amser i sicrhau bod pawb yn cael cefnogaeth lawn drwy gydol y broses, ac mae’r tenantiaid wedi cael sicrhad na fydd dim byd yn digwydd dros nos.
Bydd y tenantiaid hefyd yn cael cymorth ariannol i wneud iawn am golli eu cartref presennol, ac i’w helpu i symud a setlo mewn cartref arall.
Mae gwybodaeth fanwl ychwanegol yn cael ei rhannu gyda phob tenant yn unigol.