Mae ein tîm gwasanaeth i gwsmeriaid, Yr Hyb, wedi bod ar daith dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydyn ni eisiau diolch i’n cwsmeriaid am eu hamynedd a’u dealltwriaeth dros y cyfnod hwn.

Diolch i ymroddiad a gwaith caled ein tîm anhygoel, rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’n gwasanaethau. Rydym wedi recriwtio a hyfforddi cydweithwyr newydd, wedi ailstrwythuro ein prosesau, ac wedi mynd i’r afael ag unrhyw fylchau mewn hyfforddiant.

Ym mis Mehefin, cyrhaeddom lefel wasanaeth gyffredinol o 92% sy’n gamp ragorol. Mae hyn yn gyflawniad anferth i ni, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb eich cefnogaeth a’ch amynedd parhaus. Rydym wedi llwyddo i symleiddio ein gweithrediadau, sy’n golygu y gallwch ddisgwyl cael ymmatebion cyflymach a mwy effeithlon i’ch ymholiadau o hyn ymlaen.

Wrth i ni symud ymlaen, rydym yn ymrwymedig i adeiladu ar y llwyddiant hwn ac yn gwella ein gwasanaethau i chi yn barhaol. Ein nod yw sicrhau bob pob rhyngweithiad rhyngoch chi a ninnau yn hwylus, yn ddefnyddiol ac yn eich bodloni.

Meddai Kayleigh Cunningham, Arweinydd y Tîm Gwasanaeth i Gwsmeriaid yng Nghymoedd i’r Arfordir, “Bu gwaith caled ac ymroddiad ein tîm yn werth chweil, ac rydym wrth ein bodd o weld bod ein lefelau gwasanaeth wedi gwella. Gallwch ddisgwyl cael atebion i’ch ymholiadau yn gyflymach ac yn fwy effeithlon nag erioed o’r blaen. Rydym wrthi’n gwella’n barhaol er mwyn darparu gwasanaeth gwell i’n cwsmeriaid!”

Diolch am eich cefnogaeth a’ch ymddiriedaeth barhaus yn Nhîm Yr Hyb.