Rydyn ni’n gweithredu i wella ein gwasanaeth adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Daw’r cam hwn yn sgil ein harolwg STAR diweddar a ddangosodd mai dim ond 56% ohonoch oedd yn fodlon ar y gwasanaeth presennol. Mae hon yn Wythnos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, felly mae’n gyfle perffaith i ni fyfyrio ar ein dull o weithredu a gwneud newidiadau cadarnhaol.

Mae llawer o wahanol fathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn cynnwys cymdogion swnllyd, camdriniaeth eiriol, bygythiadau, a bygwth. Gall hyn gael effaith dinistriol ar fywydau preswylwyr gan wneud iddyn nhw deimlo’n anniogel ac yn anhapus yn eu cartrefi. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eich bod yn teimlo’n hyderus i adrodd am unrhyw bryderon o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a’ch bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan y gymdeithas dai.

Meddai Andy Jones, Arweinydd y Tîm Tai Cymunedol yng Nghymoedd i’r Arfordir: “Rydyn ni eisiau i gwsmeriaid deimlo’n hyderus y gallant roi gwybod i ni am unrhyw bryderon o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol ond hefyd rhoi canllawiau clir ar beth allant ddisgwyl gennym o ran y
camau a gymerwn, faint o amser bydd yn cymryd i ddatrys materion, pa mor aml gallant ddisgwyl clywed gennym. Rydyn ni eisiau clywed syniadau ac atebion ein cwsmeriaid a gweithio gyda nhw i gyd-gynhyrchu ein gwasanaethau.”


Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich mewnbwn a’ch adborth ar beth mae gwasanaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol rhagorol yn ei olygu i chi. Caiff yr adborth ei gynnwys yn y cynllun gwella, gan sicrhau eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl o’r dechrau.

Mae gwella’r gwasanaeth adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn hanfodol i sicrhau diogelwch a llesiant y gymuned. Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda chi a’n partneriaid i gyflawni’r nod hwn a darparu cartrefi lle
mae pobl yn teimlo’n hapus a diogel.

Llenwch ein harolwg ymddygiad gwrthgymdeithasol.