Cawsom noson anhygoel yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru, a chafodd ein Tîm Ymgysylltu â’r Gymuned lwyddiannau gwych. Yn y digwyddiad, a gynhaliwyd neithiwr, rhoddwyd cydnabyddiaeth i ymdrechion eithriadol cymdeithasau tai ac unigolion sy’n canolbwyntio ar gael effaith cadarnhaol mewn cymunedau ar draws Cymru.

Yn y categori ‘Cyfathrebu â Thenantiaid a Phreswylwyr’, enillom yr ail wobr o fri. Roedd y gydnabyddiaeth yn anrhydeddu ein dull ymgysylltu ‘Untro’ arloesol lle bu’r tîm yn cysylltu â’r gymuned leol mewn ffordd uniongyrchol a phersonol. Canlyniad y fenter syml ond grymus hon oedd hwyluso sgyrsiau, gwella cyfathrebu ac ailsefydlu ein presenoldeb fel grym gweladwy yn y gymuned.

Mynegodd Laura Morris, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cymoedd i’r Arfordir, ei llawenydd wrth glywed am y gydnabyddiath, gan ddweud “Rydym yn falch iawn o’n dull ymgysylltu ‘Untro’ arloesol a’i effaith ar ein cymuned. Caniataodd i ni ailgysylltu ar lefel bersonol, deall eu hanghenion yn glir, a meithrin perthnasoedd cryfach. Mae ennill y wobr hon yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein tîm cyfan ac yn ddiolch i bob cwsmer sy’n ein cefnogi trwy gymryd
rhan.”

Yn ogystal, cafodd Debbie a Sarah, dwy wirfoddolwraig eithriadol sy’n rhedeg Clwb Ieuenctid Wildmill yn ddiflino, eu hanrhydeddu drwy ‘Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Beirniaid’. Mae eu hymrwymiad a’u hymroddiad diysgog wedi cael effaith sylweddol ar fywydau’r bobl ifanc yn y gymuned. Trwy ddarparu man diogel a hapus i bobl ifanc ar stad Wildmill, mae Debbie a Sarah wedi grymuso a dyrchafu unigolion di-rif, gan roi lle iddynt gael eu clywed a’u gwerthfawrogi.

Mae ein llwyddiant yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru nid yn unig yn arddangos ein llwyddiannau ond mae hefyd yn amlygu’r gwahaniaeth cadarnhaol rydym yn ei wneud yn ein cymunedau. Trwy ganolbwyntio ar gyfranogi ystyrlon a chysylltiadau cryfach, rydym yn parhau i glywed lleisiau’r cwsmeriaid ac yn eu cynnwys wrth i ni lunio ein gwasanaethau.