Ar y cyd â’n partneriaid adeiladu Paramount, mae’n dda gennym ddarparu diweddariad cadarnhaol a chynyddol ynghylch ein datblygiad diweddaraf ym Mhorthcawl, De Cymru.

Ymweliad safle gan Cymoedd i’r Arfordir a Paramount 

Ers i ni ddechrau gweithio ar yr hen safle tir llwyd yn gynharach eleni, mae’r datblygiad newydd 20 eiddo ar Ffordd yr Hen Orsaf, a fydd yn cynnwys 17 o gartrefi un ystafell wely a 3 chartref dwy ystafell wely, wedi tyfu o nerth i nerth. Ers i graen newydd gael ei godi ar y safle ym Mehefin, mae’r gwaith adeiladu wedi cyrraedd carreg filltir bwysig gan fod y system fframwaith Mestec newydd wedi’i osod ar y datblygiad.

Dechreuwyd y gwaith adeiladu ar yr adeilad aml-lawr yn Chwefror 2023 a’i nod yw gwasanaethu ein demograffeg o bobl dros 50 yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Pan gaiff ei gwblhau, bydd yn ychwanegiad dymunol ar orwel Porthcawl, lle mae’r galw am lety un ystafell wely yn codi’n gyflym.

Rydym wedi sicrhau £2,779,002 drwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru Ar gyfer y datblygiad hwn, gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r datblygiad ym Mhorthcawl yn cyfrannu ymhellach at ein hymrwymiad i ddarparu 1000 o gartrefi fforddiadwy o ansawdd da ym Mhen-y-bont ar Ogwr erbyn 2031. Wrth dderbyn yr arian grant hwn, mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi elwa oherwydd y buddsoddiad ychwanegol, ac mae’r incwm rhent gan gwsmeriaid presennol yn cael ei ddefnyddio’n fuddiol i gynnal a gwella’r stoc dai bresennol.

Argraff arlunydd o’r datblygiad gorffenedig

“Mae’n wych gweld sut mae’r cartrefi newydd hyn ar Ffordd yr Hen Orsaf yn nesáu at gael eu gorffen. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Paramount Interiors dros y 24 mis diwethaf i gychwyn y datblygiad hwn ac rydym wrth ein bodd o weld y cynnydd hyd yma. Bydd y datblygiad yn darparu 20 o gartrefi newydd yn ardal Porthcawl, ac wrth weld sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen, rydym yn hyderus y bydd y cartrefi’n barod erbyn Ebrill 2024.”

Rob Green, Pennaeth Datblygu ac Adfywio yng Nghymoedd i’r Arfordir

“Pan fydd wedi’i orffen bydd y datblygiad yn adeilad pedwar llawr – rwy’n meddwl mai hwn yw’r datblygiad uchaf mae Cymoedd i’r Arfordir wedi’i gwblhau. Ynghylch camau nesaf y gwaith adeiladu, rhagwelwn y bydd yn cymryd tua 9 wythnos i orffen gosod y fframwaith Mestec. Ar ôl hyn, bydd y gorchudd allanol, y to a’r ffenestri’n cael eu gosod.”

Paul Thomas, Cyfarwyddwr Adeiladu Paramount