Mae gan breswylwyr Caerau rywbeth i edrych ymlaen ato ym Mehefin eleni. Diolch i ymdrech gydweithredol rhwng Caerau Skyline, The Green Valleys a hyd at £15,000 gan yr Undeb Ewropeaidd, bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i Heol Cymmer, Stryd y Gogledd a Stryd Fictoria.

Bydd y llwybr troed yn cael ei estyn a’i uwchraddio er hwylustod a diogelwch, yn cynnwys gosod mwy o ganllawiau i roi cymorth ychwanegol. I wella golwg y lle a helpu pobl i ymlacio, bydd llwyni sydd yn y ffordd yn cael eu clirio a bydd meinciau’n cael eu gosod ar hyd y llwybr. Bydd y gwelliannau hyn yn golygu y gall preswylwyr seibio, mwynhau’r golygfeydd darluniadwy syfrdanol dros Gwm Llynfi a gwerthfawrogi harddwch naturiol yr ardal.

Mae’r cydweithrediad hwn gyda’n partneriaid yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynyddu’r buddsoddiad ariannol a chymdeithasol yn y cymunedau a wasanaethwn, gyda’r nod o wneud ein hardal leol yn lle
mwy dymunol nag erioed i fyw ynddo.

Rydym yn falch iawn fod y contractwr lleol dibynadwy, D+M Builders, yn gweithio gyda ni i greu’r trawsnewid hwn. Bydd eu harbenigedd a’u hymroddiad i ansawdd yn sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni i’r safonau uchaf ac yn cwrdd â disgwyliadau’r gymuned.

Mynegodd Johnathan Luxton, y Swyddog Stadau Cymunedol, ei gynnwrf, gan ddweud “Rydym wedi cydymweithio â’r gymuned leol a gwrando ar ei barn, ac rydym wrth ein bodd o gael y cyfle hwn i wella cysylltedd lleol.”

Bydd y gwaith yn dechrau ganol Mehefin, a rhagwelwn y bydd y prosiect wedi’i orffen erbyn Gorffennaf. Rydyn ni’n deall y gallai’r gwaith sydd ar fynd greu rhywfaint o anghyfleustra, ond gallwn eich sicrhau y bydd y canlyniad yn gwbl werth chweil.

Edrychwn ymlaen at weld yr effaith cadarnhaol a gaiff ar gymuned Caerau.