Ein prif bwrpas yw darparu cartrefi a lleoedd lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus ac rydym wedi gwrando pan ddywedoch wrthym nad ydych yn meddwl ein bod yn gwneud digon i ofalu am eich cartref. Dyna pam rydyn ni’n meddwl mewn ffordd wahanol ac yn creu cwmni newydd, a fydd yn perthyn i ni 100%, i wella, tyfu a datblygu ein gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar eich cartrefi.

Bydd hyn yn golygu gwasanaeth gwell pan fyddwch yn gofyn am with atgyweirio, mwy o fuddsoddiad yn eich cartrefi, a mwy o gyfleoedd ar gyfer swyddi lleol. Rydyn ni ar fin dechrau ar y broses o sefydlu’r cwmni a gobeithiwn y bydd yn barod i’w lansio’r Gwanwyn nesaf.

Pam?


Wrth edrych ar adborth ein cwsmeriaid a dylanwadau allanol, sylweddolom bod rhaid i ni wella’r profiad atgyweirio a chynnal a chadw i’n cwsmeriaid. Trwy symud y gwasanaethau hyn i is-gwmni – sy’n rhannu ein cwsmeriaid a’n gwerthoedd – byddwn yn gallu gwneud penderfyniadau cyflymach ar bob lefel, o’r rheoli i’r gweithredu. Bydd yr is-gwmni yn canolbwyntio’n llwyr ar ddarparu gwasanaeth gwaith atgyweirio a chynnal a chadw dibynadwy, proffesiynol ac effeithlon sydd â’i gwsmeriaid wrth ei galon bob amser.

Beth?


Bydd yr is-gwmni yn gwmni cwbl ar wahân, ond eto bydd yn perthyn 100% i Gymoedd i’r Arfordir felly bydd perthynas glòs a chadarn rhyngom. Bydd yr is-gwmni wedi’i seilio ar yr un pwrpas a gwerthoedd, ond bydd ganddo’i egwyddorion gweithredu ei hun a all ymaddasu i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid. 
Bydd yn gwmni a redir gan bobl broffesiynol, ac sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau cyffrous.

Pryd?


Rydym yn bwriadu lansio ym mis Ebrill 2024. Yn ystod y cam gweithredu presennol, mae cydweithwyr ac arbenigwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gychwyn pethau fel rhan o’n cynllun Prosiect Genesis (dechrau rhywbeth newydd). Bydd diwrnod un yn ddechreuad taith gyffrous a rennir – byddwn yn cydweithio’n agos wrth i ni symud ymlaen, fel endidau ar wahân, ond gyda’r un weledigaeth a phwrpas, sef creu cartrefi a mannau lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel a hapus, a helpu i adeiladu Pen-y-bont ar gwr well.

Sut?

Trwy’r Prosiect Genesis rydym yn gweithio i greu busnes pwrpasol sy’n diwallu anghenion ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr. Y ffocws i gychwyn yw creu brand a hunaniaeth gyfreithiol, paratoi egwyddorion gweithredu, polisïau a gweithdrefnau’r cwmni, rhoi fframweithiau yn eu lle i drosglwyddo cydweithwyr, sefydlu’r llywodraethu cywir, ac yn bwysicaf oll – gweithio gyda’n cwsmeriaid i sicrhau ein bod yn creu cwmni sy’n diwallu eu chwenychiadau a’u hanghenion. Drwy gydol y broses weithredu, bydd ein gwaith yn cael ei fonitro’n agos gan ein grŵp cynghori a’r Bwrdd i sicrhau bod y cynllunio’n gadarn ac yn amserol.