Mae eCymru, porth i denantiaid a grewyd mewn cydweithrediad rhwng gwahanol bartneriaid a thenantiaid, wedi’i lansio’n swyddogol ac rydyn ni’n falch o gyhoeddi y gallwch nawr cofrestru fel tenant Cymoedd i’r Arfordir. Dyluniwyd eCymru i fod yn borth i ddigwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu a dysgu’n electronig i denantiaid, gyda’r nod o’u cynorthwyo i fyw bywydau hapusach ac iachach.

Gwnaeth pandemig COVID-19 ysgogi cydweithredu ar draws Cymru i gynnig profiad digidol newydd i denantiaid. Mae’r porth wedi cynnal nifer o weminarau llwyddiannus dan arweiniad Cymunedau Digidol Cymru, ar bynciau fel siopa’n ddiogel ac arbed arian, iechyd a llesiant digidol a chafwyd perfformiad byw gan Gôr Meibion y Barri. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau byw i gasglu adborth gan denantiaid, er mwyn sicrhau y bydd y prosiect yn llwyddianus. Dywedodd un tenant yn ddiweddar, “Fe wnes i werthfawrogi natur anffurfiol y digwyddiad, a oedd yn gwneud i mi deimlo’n gyffyrddus i ofyn gwestiynau heb deimlo o dan bwysau. Roedd yn gyflwyniad gwych i’r byd digidol i rywun fel fi sy’n newydd i’r maes hwn.”
Mae eCymru wedi llunio partneriaeth â’r Brifysgol Agored i gynnig ystod o gyrsiau ar-lein am ddim ym meysydd celf a chrefft, addysg, ffitrwydd ac iechyd. Datblygwyd a phrofwyd eCymru ar y cyd rhwng tenantiaid ac unigolion gan rannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau pobl o bob rhan o Gymru, i sicrhau bod y porth yn bodloni anghenion amrywiol y cymunedau mae’n eu gwasanaethu.
“Mae Hafod yn gyffrous i fod yn rhan o gynllun peilot eCymru wrth i ni ymchwilio i sut y medrwn ehangu ein cynnig digidol i’n cwsmeriaid,” meddai Michelle McGregor, Cydlynydd Ymgysylltu â Chwsmeriaid Cymdeithas Tai Hafod. Ychwanegodd Scott Tandy, Swyddog Cynhwysiant Digidol Cymdeithas Tai Newydd, “Bu’n brofiad rhagorol gweithio gyda thenantiaid a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddatblygu eCymru. Gobeithiwn y bydd eCymru yn caniatáu i’n tenantiaid ddatblygu sgiliau a diddordebau newydd ac ailysgogi eu hangerdd at sgiliau a diddordebau blaenorol.”
Nod tymor hir prosiect eCymru yw meithrin cydweithredu a gwella llesiant tenantiaid. Mae tîm y prosiect yn gwahodd yr holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru i ymuno â nhw yn yr ymdrech i gynyddu ymwybyddiaeth am y digwyddiadau a’r cyrsiau ar-lein a gynigir a gweithio tuag at ddyfodol disgleiriach i denantiaid.
Cofrestrwch nawr!