Rydym yn falch o gyflwyno Addo, sy’n deillio o’r gair Cymraeg am ‘to
promise’. Mae’r ymrwymiadau hyn yn pwysleisio ein hymroddiad i’r
Gymraeg ac mae’r amseriad yn wych gan fod dydd Sul yn Ddiwrnod
Rhyngwladol Dylan Thomas. Fel sefydliad sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn
nhreftadaeth Cymru, rydym yn cofleidio’r Gymraeg yn galonnog ynghyd â’i
harwyddocâd yn ein hunaniaeth gyfunol fel cenedl.



Rydym yn ymfalchïo yn y Gymraeg ac eisiau iddi ffynnu. Yn unol â’n
hymrwymiad, rydym yn ymrwymo i gynnwys y Gymraeg ble bynnag y bo’n
ymarferol yn ein rhyngweithiadau â chydweithwyr, cwsmeriaid, a
rhanddeiliaid. Rydym yn deall pa mor bwysig yw meithrin ei thwf, hyrwyddo
ei defnydd, a chwilio’n barhaol am gyfleoedd i ddatblygu a gwella.

I ddangos ein cefnogaeth i’r Gymraeg ymhellach, rydym yn falch o
gyhoeddi ein cydweithrediad â Chlwb Cwtsh i gynnig cyfle i’n cydweithwyr
ddysgu Cymraeg yn gyfleus yn eu gweithle neu yn eu cartref.

Cewch ei ddarllen yma

Dywedodd Laura Morris, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cymoedd i’r
Arfordir, “Rydym yn mawr obeithio y bydd ein cydweithwyr yn croesawu ein
defnydd cynyddol o’r Gymraeg yn y gwaith – mae hyd yn oed brawddegau
syml, cyfarch rhywun gyda ‘bore da’ neu ddweud ‘diolch’ yn lle ‘thank you’
yn gamau pwysig sy’n helpu pobl i deimlo’n fwy cyfforddus wrth
ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.

Mae gan bob un ohonom sgiliau a phrofiadau gwahanol o siarad
Cymraeg, ond mae’n rhywbeth y gallwn ei wneud os mynnwn a dyna beth
sy’n bwysig ‒ helpu cydweithwyr i ddefnyddio cymaint neu gyn lleied o
Gymraeg ac mae’n nhw eisiau, ac ar yr un pryd, cofleidio ein diwylliant
Cymreig unigryw.”