Gan fod yr wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth o’r Byddar, rydym yn falch o gyhoeddi ymdrechion ein cydweithwyr i wella’u sgiliau cyfathrebu. Rydym yn deall bod ein cwsmeriaid yn dod o gefndiroedd amrywiol, ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn teimlo’u bod yn cael croeso wrth ryngweithio â ni. Dyna pam rydyn ni’n buddsoddi yn ein cydweithwyr i greu profiad mwy cynhwysol i gwsmeriaid.
Yn ddiweddar, dilynodd ein cydweithwyr Louise a Joanna, o’n Tîm Incwm, gwrs Iaith Arwyddion am ddim a gynigir gan Goleg Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd y Cwrs Gwella yn rhaglen deg wythnos lle dysgont sut i gyfathrebu yn defnyddio iaith arwyddion.
Mae dysgu iaith arwyddion wedi bod yn hanfodol am ei fod yn hwyluso cyfathrebu nid yn unig gyda phobl fyddar neu drwm eu clyw ond hefyd pobl ag anableddau sy’n methu cyfathrebu mewn geiriau. Trwy ddysgu iaith arwyddion, mae ein cydweithwyr yn dangos cynwysoldeb ac mae hyn yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan ein cwsmeriaid. Mae’n erfyn ardderchog sy’n ein helpu i gyflawni ein hymrwymiadau cydraddoldeb amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae gennym rai cwsmeriaid sy’n fyddar ac un sy’n gofalu am blentyn â syndrom Down. Mae gallu cael sgwrs fach gyda nhw mewn iaith arwyddion wedi bod yn deimlad gwych, ac maen nhw wir yn gwerthfawrogi’r ymdrech. Trwy ddysgu iaith arwyddion, mae ein cydweithwyr yn gwneud gwahaniaeth i fywydau ein cwsmeriaid.