Rydym yn chwilio am bobl sy’n angerddol am dai cymdeithasol ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth i ymuno â’n Bwrdd a’n helpu i adeiladu cyfleoedd i’n cwsmeriaid a’n cymunedau.

Wrth i ni symud ein busnes ymlaen drwy’r cyfnodau Sylfaen, Adeiladu a Thyfu o’n Cynllun Corfforaethol 10 mlynedd rydym am gryfhau ein llywodraethu a buddsoddi mewn Bwrdd amrywiol sydd ag amrywiaeth eang o sgiliau a gwybodaeth i’n herio a’n cefnogi.

Wrth i ni nesáu at ein 20fed pen-blwydd fel landlord cymdeithasol cofrestredig, ac wrth i ni gychwyn ar daith i greu is-gwmni sy’n eiddo llwyr i dyfu a datblygu ein gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw, mae’n amser cyffrous i ystyried ymuno â ni. Rydym yn llawn syniadau ac egni, ac rydym yn adeiladu sylfeini parhaol y gallwn greu rhywbeth arbennig arnynt i bobl Pen-y-bont ar Ogwr – a thu hwnt efallai. 

Mae gan aelodau’r Bwrdd rolau hanfodol i’w chwarae. Fel aelod o’n Bwrdd, byddech chi’n gallu rhannu eich arbenigedd ar draws y busnes cyfan. Rydym yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, adfywio, a chreu cartrefi diogel a hapus, mewn mannau diogel a hapus, ar gyfer cwsmeriaid diogel a hapus sydd wrth galon ein sefydliad.

Eisiau cael rhagor o wybodaeth? Darllenwch ein pecyn recriwtio a gwnewch gais heddiw – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

Mae ceisiadau’n cau ar Ebrill 23, 2023 – gwnewch gais ar-lein.