Ein prif bwrpas yw darparu cartrefi a lleoedd lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus ac rydym wedi gwrando pan ddywedoch wrthym nad ydych yn meddwl ein bod yn gwneud digon i ofalu am eich cartref.

Dyna pam rydyn ni’n meddwl mewn ffordd wahanol ac yn creu cwmni newydd, a fydd yn perthyn i ni 100%, i wella, tyfu a datblygu ein gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar eich cartrefi.

Bydd hyn yn golygu gwasanaeth gwell pan fyddwch yn gofyn am with atgyweirio, mwy o fuddsoddiad yn eich cartrefi, a mwy o gyfleoedd ar gyfer swyddi lleol.

Rydyn ni ar fin dechrau ar y broses o sefydlu’r cwmni a gobeithiwn y bydd yn barod i’w lansio’r Gwanwyn nesaf.

Byddem yn falch iawn o gael eich cymorth i helpu i siapio’r gwasanaeth hwn gyda phethau fel:
✅ Recriwtio pobl ar gyfer y swyddi newydd y byddwn yn eu creu
✅ Penderfynu sut fydd y cwmni’n gweithredu ac yn darparu’r gwasanaeth atgyweirio
✅ Dewis enw, dylunio brand y cwmni ac adeiladu gwefan

Os penderfynwch gymryd rhan, byddwch nid yn unig yn ein helpu ni – ond byddwch hefyd yn cwrdd â ffrindiau newydd, ennill profiadau newydd i’w rhoi ar eich CV, neu hyd yn oed dysgu sgiliau a allai eich helpu i sefydlu eich busnes eich hun! Byddwn yn talu eich treuliau, fel costau teithio a gofal plant.

Oes diddordeb gennych? Hoffech chi gael gwybod mwy? 
E-bost: customervoice@v2c.org.uk 
Ffôn: Marie Kiff ar 07717571735 neu Georgia Williams ar 07557345076 

Darllenwch fwy yma.