Mae Cymoedd i’r Arfordir wedi hwyluso budd anhygoel i’r gymuned drwy baru Hale Developers a Chadetiaid Awyr Pen-y-bont ar Ogwr. I gefnogi Sgwadron 1092, mae Hale Developers wedi uwchraddio’u hystafell TG gan ddarparu gliniaduron newydd a hefyd efelychydd realiti rhithwir, yn ogystal ag ailgyflenwi eitemau ar gyfer cit Dug Caeredin y cadetiaid.

Mae dros 50 o gadetiaid ifanc yn mynychu’n rheolaidd o bob rhan o Ben-y-bont ar Ogwr, ac maent yn cael cyfle i ddysgu sgiliau bywyd trosglwyddadwy gwerthfawr y gallant eu cymhwyso at eu dyfodol.

“Mae cefnogi sgiliau cydnerthedd a chyflogadwyedd yn rhan o ymrwymiad cymunedau llewyrchus Cymoedd i’r Arfordir. Mae’r sgwadron hwn yn cynnal yr ystafell TG ar gyfer pob sgwadron ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bydd y cymorth hwn yn dod â budd i lawer o gadetiaid presennol ac yn y dyfodol ” – Rachel Lovell, Cymoedd i’r Arfordir

Ychwanegodd Hale Developers:

“Roeddem yn falch iawn o gael cydweithio â’n cleient gwerthfawr, Cymoedd i’r Arfordir, i gefnogi Sgwadron 1092 Pen-y-bont ar Ogwr drwy roddi offer hanfodol a fydd yn caniatáu i’r cadetiaid wneud ymarferion alldaith gydag offer TG a phenset VR.”

Rydym yn ddiolchgar iawn i Hale Developers a Chymoedd i’r Arfordir am ein cefnogi. Bydd hyn yn creu ac yn gwella cyfleoedd i’n cadetiaid, gan fod datblygiadau technolegol yn golygu bod y rhan fwyaf o’n dysgu’n digwydd ar-lein, a bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r cadetiaid o ran ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. A bydd yr Efelychydd Hedfan yn ein galluogi i roi hyfforddiant cyn hedfan i’r Sgwadron, cyn i’r Cadetiaid gyflawni eu Hediad Profiad Awyr cyntaf. Diolch.”

Sgwadron-bennaeth Rhys Thomas-Challenger, Prif Swyddog Sgwadron 1092 (Pen-y-bont ar Ogwr).