Pan ofynnodd Clwb Pêl-droed Cornelly United i’w cymdeithas dai leol am gymorth, nid cit newydd oedd ar eu rhestr ddymuniadau, ond cegin newydd!

Ac roedd Cymoedd i’r Arfordir yn falch iawn o helpu, gan weithio gyda’i chontractwr partner, ASW Property Services (ASW), i ailwampio cegin y clwb fel rhan o’i hymrwymiad budd i’r gymuned.

Nawr mae’r chwaraewyr a’r cefnogwyr yn gallu mwynhau lluniaeth mewn amgylchoedd dymunol, ac mae’r clwb yn cynhyrchu incwm hefyd wrth werthu diodydd twym ac oer.

Cymoedd i’r Arfordir yw’r darparwr tai cymdeithasol mwyaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bu’n cydweithio gydag ASW i gefnogi’r gwaith adnewyddu fel rhan o’i rhaglen Cymunedau Llewyrchus.

Nod y rhaglen yw buddsoddi mewn cymunedau trwy gynnwys cytundebau budd yn ei chontractau, gan sicrhau bod Pen-y-bont ar Ogwr yn cael mwy o fudd o bob punt mae’n ei gwario.

Meddai Rachel Lovell, Partner Busnes Masnachol a Chymunedau: “Ein nod yw helpu ein cymunedau lleol i ffynnu ac un ffordd o hwyluso hyn yw trwy weithio gyda’n contractwyr i ddarparu budd i’r gymuned sy’n gwneud gwahaniaeth ac yn ychwanegu gwerth cymdeithasol.

“Mae Clwb Pêl-droed Cornelly United wrth galon Gogledd Corneli – mae’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac mae’n ased i’r gymuned. Roeddem yn falch dros ben o gael helpu gydag adnewyddu eu cegin ac roedd yn dda clywed bod hyn wedi cael effaith mor gadarnhaol ar y clwb.” 

Ychwanegodd Paul Phillips o ASW Cyf: “Mae cefnogi ein cymuned leol yn un o’n gwerthoedd craidd. Ar ddechrau unrhyw gontract neu brosiect rydym yn ystyried yr ymrwymiad hwn ac yn ymgynghori â’r gymuned leol a’n cleientiaid i asesu pa gymorth sydd ei angen a sut gallwn helpu.

“Roeddem wrth ein bodd o gael bod yn rhan o’r prosiect hwn a fydd yn darparu budd sylweddol i’r clwb pêl-droed ac yn gwella’r profiad i bawb ar ddiwrnodau gemau.”

Rhoddodd Gareth Kelly o Glwb Pêl-droed Cornelly United ddiolch i Gymoedd i’r Arfordir ac ASW am eu cymorth.

“Mae hyn nid yn unig wedi ein galluogi i ddarparu diodydd twym ac oer i’r holl chwaraewyr ac aelodau, ond mae hefyd yn caniatáu i ni fel clwb gynhyrchu incwm ar gyfer Cornelly Utd yn y dyfodol. Rydym yn dal i chwilio am fwy o eitemau i orffen adnewyddu ein cegin ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr yr holl mae Cymoedd i’r Arfordir ac ASW wedi ei wneud drosom.”

Gall grwpiau cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr gael mwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth posibl gan Gymoedd i’r Arfordir drwy e-bostio thehub@v2c.org.uk.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.valleystocoast.wales