Bob blwyddyn rydyn ni’n dewis achos i fod yn Elusen y Flwyddyn, a bydd hon yn elwa ar y gwaith codi arian gan ein cydweithwyr dros y deuddeg mis nesaf.

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod aelodau Cynhadledd y Cydweithwyr eleni wedi pleidleisio i gyfeirio ein hymdrechion codi arian at Y Bwthyn Newydd, sef gwasanaeth gofal lliniarol arbenigol yn nhiroedd Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r Bwthyn Newydd yn darparu amgylchedd croesawgar, cefnogol a chynnes i bobl sydd â chanser, eu perthnasau a’u gofalwyr.

Mae’r tîm yn Y Bwthyn Newydd yn cefnogi pobl gyda’u hanghenion corfforol, emosiynol ac ysbrydol ac yn helpu cleifion ac aelodau teulu i gynllunio ar gyfer eu hanghenion yn y dyfodol, gan gyd-drefnu gofal a chynnal trafodaethau sydd weithiau’n anodd.

Dyma fwy o wybodaeth am y math o ofal a ddarperir gan Y Bwthyn Newydd.