Nôl yn Ebrill, dechreuon ni chwilio am y gerddi gorau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ein cystadleuaeth arddio gyntaf ers nifer o flynyddoedd, cawsom ein syfrdanu gan y gerddi a’r mannau gwyrdd bendigedig yn y gymuned, ac fe gafodd ein panel beirniadu dipyn o anhawster i benderfynu ar y gorau o’r goreuon. Ond o’r diwedd mae’n bleser gennym gyhoeddi enillwyr cystadleuaeth arddio #TyfuAmAur 2022 Cymoedd i’r Arfordir.

Diolch i Wasanaethau Eiddo ASW am noddi’r categori Yr Ardd Orau a darparu’r wobr i’r enillydd. 

A diolch o galon i’n holl ymgeiswyr eleni, cawsom lawer o fwynhad wrth weld eich gwaith caled, a chael awgrymiadau a syniadau ar gyfer ein gerddi ninnau ar hyd y ffordd! Rydym yn edrych mlaen at weld eich campau’r flwyddyn nesaf.

Yr Ardd Orau

Yn y categori hwn, roedd ein beirniaid yn ystyried y defnydd o leoedd gwag, yr amrywiaeth o rywogaethau, y gwaith cynnal a chadw ar lwybrau, lawntiau a seddau tu allan, y bywyd gwyllt a’r glendid.

1af – Mavis Walters

2il – Debbie Davies

3ydd – Maldwyn Jones

Eco Ardd

Ar gyfer yr Eco Erddi, ystyriom y defnydd creadigol o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a chydrannau wedi’u huwchgylchu, y budd i fywyd gwyllt lleol fel tai i ddraenogod, a phlanhigion cyfeillgar i beillwyr.

1af – Debbie Davies

2il – Geraint Evans

3ydd – Marlas Greenspace

Mannau Bach

Mannau Bach yw’r categori ar gyfer ymgeiswyr nad oes ganddynt ardd fawr, neu sydd heb ardd o gwbl efallai, ond sydd wedi gwneud y gorau o’r man bach sydd ganddynt. Ystyriodd y beirniaid sut aethant ati i wneud y gorau o’r man bach, y cyflwyniad, yr amrywiaeth o blanhigion a blodau, ac iechyd y planhigion.

1af – Wilma Spiers

2il – Karen Davies

3ydd – Carolyn Lewis

Gardd Fwytadwy

yn y categori hwn, edrychom ar yr amrywiaeth o gynnyrch a dyfwyd, cynllun taclus, ymarferoldeb, y defnydd o gompost, a safon y cnydau.

1af – Bożena Jaszczyszyn

1st place – Bożena Jaszczyszyn

2il – Jeffrey a Maria Davies

3ydd – Viv Bayliss

Gardd Gymunedol

Beirniadwyd yr ymgeiswyr yn y categori hwn ar y budd i’r gymuned leol, bioamrywiaeth, y defnydd creadigol o le, ynghyd ag ymarferoldeb.

1af – Suffolk Close

2il – Plumley Close

3ydd – Heol Dwyrain

Y Blodyn Haul Talaf

Enillydd – Coby Davies

Yn 70.5 modfedd o uchder, neu 5′ 8″, ein henillydd ar gyfer y blodyn haul talaf eleni oedd Coby Davies!