Beth yw Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant?

Yma yn Cymoedd i’r Arfordir, rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd cymunedau sy’n ffynnu. Mae cymunedau sy’n ffynnu yn amrywiol, yn deg ac yn gyfartal i bawb, lle ma pawb wedi’u cysylltu yn gymdeithasol.


Rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu amgylchedd i’n cwsmeriaid, ein cydweithwyr a’n partneriaid, a fydd yn rhoi cyfle cyfartal i bawb yn lle maen nhw’n byw ac yn gweithio. Ein nod yw creu amgylcheddau sydd heb unrhyw wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth a rhagfarn, gan gydnabod pwysigrwydd y nodweddion gwarchodedig; oedran, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, anabledd, hil gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, ethnigrwydd, crefydd neu gred, a rhyw.

Beth ydyn ni’n ei wneud i sicrhau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant?

Rydyn ni’n datblygu polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd, ac mae eich barn am hyn yn bwysig. Dylai Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant fod yn bwysig i bob un ohonom. Y nod yw hyrwyddo cyfleoedd cyfartal rhwng grwpiau o bobl o gefndiroedd amrywiol ac sydd ag anghenion amrywiol er mwyn i ni i gyd fod yn ddiogel ac yn hapus. Rydyn ni’n cydnabod yr effaith gadarnhaol a’r ddealltwriaeth werthfawr y gall pobl o wahanol gefndiroedd a phrofiadau ei gyfrannu at hyn, felly mae’n hanfodol ein bod yn cael eich cefnogaeth.

Beth allech chi ei wneud i helpu?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Rydyn ni’n trefnu grŵp trafod sy’n benodol ar gyfer clywed eich barn am sut y gallwn ddatblygu ein polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Os nad ydych chi eisiau bod yn rhan o grŵp, ond y byddech chi’n hoffi rhannu eich barn, rydyn ni eisiau clywed gennych chi o hyd.


Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â’r Tîm Ymgysylltu.

Image of colleague Marie Kiff
Marie Kiff (Link opens in new window)

Partner Ymgysylltu â’r Gymuned
07717571735
Marie.Kiff@v2c.org.uk

Image of colleague Georgia Williams
Georgia Williams (Link opens in new window)

Partner Ymgysylltu â’r Gymuned
07557345076
Georgia.Williams@v2c.org.uk