Eich Rhent Chi, Eich Barn Chi – Taith arolwg rhenti 

Published on:

Mae’n amser i chi rannu eich barn eto ar y rhent rydych yn ei dalu – a chael cyfle i ennill talebau siop fwyd gwerth £50!

Bob blwyddyn, rydyn ni’n gofyn i’n cwsmeriaid ddweud wrthon ni beth maen nhw’n meddwl am eu rhent, ac eleni yn arbennig, rydyn ni’n deall yn iawn sut mae costau byw yn effeithio arnoch. 

Dros y mis nesaf, bydd ein tîm yn ymweld â chymunedau i glywed eich meddyliau a’ch awgrymiadau. Dewch yn eich blaen i siarad â ni, bydd eich syniadau yn ein helpu i barhau i roi ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn.

Dyma ble byddwn ni:

Dydd Mercher, 3 Awst11am – 2pmWildmill | Tu allan i’r Ganolfan Gymunedol
Dydd Iau, 4 Awst10am – 2pmBrackla | Yng nghanol Ffordd Ganol
Dydd Iau, 11 Awst10am – 2pmPencoed | Cae Glas
Dydd Gwener 12 Awst10am – 2pmAr y gornel rhwng Y Wern a Llwyncelyn
Dydd Mercher, 17 Awst10am – 2pmPorthcawl | Pwll y Waun
Dydd Iau, 18 Awst10am – 2pmCaerau | Stad Tudor
Dydd Mawrth, 23 Awst12pm – 4pmY Pîl | Ffordd y Goedwig
Dydd Mercher, 24 Awst10am – 2pmMaesteg | Stad Oakwood
Dydd Mercher, 31 Awst 200910am – 2pmGogledd Corneli | Heol y Parc
Dydd Iau, 1af Medi10am – 2pmCefn Glas | Canolfan Gymunedol
Dydd Iau, 8 Medi10am – 2pmGogledd Corneli | Heol Llan
Dydd Gwener, 9 Medi12pm – 4pmSarn | Jubilee Crescent

Methu dod i’n cwrdd mewn person? Gallwch lenwi’r arolwg ar-lein trwy glicio yma

Rhannwch eich barn a bydd eich enw yn mynd i mewn i’r raffl. Cofiwch adael eich manylion ar ddiwedd yr arolwg os hoffech gael cyfle i ennill un o dair taleb siop fwyd gwerth £50. (Darllenwch y telerau ac amodau yma).