Rydym yn rhan o gynllun cyffrous sy’n ein galluogi i gynnig cartrefi cost isel i’w prynu am 70% o’u gwerth marchnadol. 

Mae pedwar eiddo ar gael gennym ar safle newydd Clos Derwen yng Nghoety, Pen-y-bont ar Ogwr.

Rydym yn chwilio am ddarpar brynwyr ar gyfer un cartref tair-ystafell wely a thair cartref dwy-ystafell wely.

Mae’r meini prawf ar gyfer prynu’r cartrefi hyn yn cynnwys:

  • Dros 18 blwydd oed
  • Deiliad pasbort y DU neu’r UE / AEE, neu gael ‘caniatâd amhenodol i aros’ wedi’i stampio yn eu pasbort
  • Gallu cwrdd â’r ymrwymiad ariannol tymor hir sydd ynghlwm wrth berchenogaeth tŷ
  • Gallu codi morgais am werth yr eiddo
  • Gallu darparu adnau: fel arfer 5-15% o werth yr eiddo
  • Bodloni’r meini prawf fforddadwyedd a pheidio â mynd y tu hwnt i’r trothwy incwm mwyaf.

Bydd y darpar brynwr yn prynu 100% o werth y gwerthiant. Yn ogystal, byddwn yn cofrestru buddiant ecwitïol o 30% drwy gymryd ail bridiant cyfreithiol a gofrestrir gyda’r gofrestrfa dir. Nid yw’r benthyciad hwn yn cael ei ad-dalu, a does dim llog ar y 30%. Fodd bynnag, ni fydd y prynwyr yn gallu gwerthu’r eiddo am y tair blynedd gyntaf. Darllenwch fwy am y cynllun Prynu Cartref – Cymru. 

Sut allwch chi wneud ymholiad?

Os ydych chi’n adnabod rhywun a allai fod yn gymwys ac sydd â diddordeb mewn byw yn un o’r cartrefi hyn, gofynnwch iddyn nhw gysylltu â:

Shirley Thomas

E-bost: Shirley@imperialsales.co.uk