Yr haf hwn, rydyn ni’n gweithio gyda Gwasanaethau Eiddo ASW i ddod o
hyd i’r gerddi, llecynnau a lleoedd gorau ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac
arddangos gwaith caled ein cwsmeriaid a’n preswylwyr lleol wrth iddynt
ddod ag ychydig o natur i’n bywydau.


Hyd yn oed os nad ydych wedi garddio erioed o’r blaen, beth am roi cynnig
arni nawr?

Mae’r gystadleuaeth ar agor tan 29 Gorffennaf 2022 a bydd gwobrau ar
gael i enillwyr pob categori.

Os hoffech gael hadau blodau haul i ymuno â’r categori Blodyn Haul Talaf,
cysylltwch â marie.kiff@v2c.org.uk neu georgia.williams@v2c.org.uk.

Sut i gymryd rhan

Cyflwynwch eich cais nawr, neu enwebwch rywun arall, yn defnyddio’r
ffurflen hon. Os ydych eisiau rhoi cynnig ar fwy nag un categori, rhaid i chi
lenwi ffurflen ar gyfer pob categori.
Rhaid i chi, neu’r person a enwebwyd, fod yn gwsmer Cymoedd i’r Arfordir,
oni bai eich bod yn gwneud cais ar gyfer y categori Gardd Gymunedol
neu’r categori Blodyn Haul Talaf.


Mae saith categori y gallwch roi cynnig arnyn nhw:

  1. Gardd yn y Gweithle – Dyma’ch cyfle i dynnu sylw at y gwyrddlesni yn eich busnes neu swyddfa. Os nad ydych wedi trawsnewid eich gweithle yn fan gwyrdd eto, dyma’ch cyfle i ddod â darnau o natur i’ch diwrnod gwaith.
  1. Mannau Bach – Oes gennych chi arddangosfa anhygoel ar eich balconi, blwch ffenestr ffantastig neu fasgedi crog cyfareddol? Neu efallai eich bod wedi gwahodd y tu allan i’r tu mewn gyda chasgliad o blanhigion tŷ bendigedig? Os nad oes gennych ardd ond rydych wrth eich bodd yn tyfu planhigion a blodau, dyma’r categori i chi.
  2. Yr Ardd Orau – Mae’r categori hwn ar gyfer yr ardd orau o blith pob ymgeisydd. Byddwn yn chwilio am liw, yr amrywiaeth o blanhigion a blodau, defnydd creadigol o le, a mwy!
  3. Gardd Gymunedol – Yn y categori hwn, rydyn ni eisiau gweld y mannau gwyrdd a rennir rydych chi a’ch cymdogion wedi bod yn cydweithio arnynt a’u gwella er budd y gymuned.
  4. Eco Ardd – P’un ai fod eich gardd yn llawn defnyddiau wedi’u
    huwchgylchu, neu rydych wedi creu man sy’n gyfeillgar i fywyd
    gwyllt, rydyn ni eisiau gweld eich gardd gynaliadwy.
  5. Gardd Fwytadwy – Ydych chi’n coginio bwyd iachach drwy ddefnyddio cynnyrch cartref? Dangoswch y ffrwythau a’r llysiau rydych chi wedi’u tyfu yn eich gardd.
  6. Y Blodyn Haul Talaf (Categori’r Plant) – Beth am symbylu’r plant i gymryd rhan? Anogwch nhw i ddechrau garddio gyda’n categori blodau haul. Mae digon o hadau blodau haul ar gael gennym – Ebrill/Mai yw’r amser gorau i’w plannu yn y DU, felly ewch ati ar unwaith!