Ein gweledigaeth ‘diogel a hapus’ deng mlynedd

Published on:

Rydym wedi lansio ein Strategaeth Gorfforaethol! 

Mae hon yn mapio ein llwybr fel sefydliad am y deng mlynedd nesaf. Cafodd ei drafftio’n wreiddiol cyn cyfyngiadau symud y pandemig ac rydym wedi defnyddio’r amser hwn i fyfyrio, adolygu ac adnewyddu ein strategaeth ar gyfer y byd newydd rydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddo ‒ gan sicrhau ei bod yn ddigon hyblyg i ddelio ag unrhyw heriau yn y dyfodol.

Mae’r strategaeth yn atgyfnerthu ein pwrpas, gan ddisgrifio ein gweledigaeth, ein gwerthoedd a’n blaenoriaethau strategol. Mae hefyd yn esbonio’r tri cham yn ein strategaeth, yn cynnwys y cam presennol sy’n canolbwyntio ar yr ‘Elfennau Sylfaenol Syfrdanol’ ac yn sicrhau bod ein gwaith atgyweirio a’n gwasanaethau cynnal a chadw craidd yn cyrraedd y safonau y dylent, ac mae’n rhaid iddynt, eu cyflawni ar ôl COVID. Bydd hyn yn gosod sylfaen gadarn y gallwn adeiladu arni i fynd i’r afael â’r argyfwng tai cenedlaethol a helpu i adfywio Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae hefyd yn ymrwymo i’n pedwar amcan corfforaethol, sef sicrhau bod ein cwsmeriaid, eu cartrefi, y mannau lle mae ein cymunedau wedi’u lleoli, a’n cydweithwyr, yn ddiogel ac yn hapus. Wrth symud ymlaen, bydd y rhain wrth galon popeth a wnawn.

Nododd Joanne Oak, ein Prif Weithredwr, mor galonogol oedd gweld bod ein strategaeth ar hyn o bryd yn gwbl briodol. 

“Roedd angen i ni addasu’n ffordd o weithio ar ôl y pandemig i fodloni anghenion newidiol ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr. Drwy ddefnyddio eu hadborth, roeddem yn siŵr ein bod yn gwneud y pethau cywir, yn y ffordd gywir, ac am y rhesymau cywir. Bydd hyn yn ein galluogi i gyflawni mwy, ac yna arloesi a thyfu, gan barhau i gyflwyno’r gwasanaethau gwych mae ein cwsmeriaid yn eu haeddu.”

Esboniodd Cadeirydd y Bwrdd, Anthony Whittaker, bod y strategaeth wedi helpu Cymoedd i’r Arfordir i gyflawni ei botensial anferth.

“Ym mhob rhan o’r busnes, rwy’n gweld pobl o’r un meddylfryd sydd eisiau gwneud y gorau dros y cymunedau lle mae ein cwsmeriaid yn byw. Ynghyd â chryfhau partneriaethau gyda sefydliadau o’r un meddylfryd i weithio gyda’n gilydd i helpu i adfywio pob rhan o Ben-y-bont ar Ogwr.”

Darllenwch Strategaeth Gorfforaethol Cymoedd i’r Arfordir 2021-2031 yma.