Dylai’r Ddeddf sicrhau eich bod yn cael gwasanaeth cyson gan eich landlord, hyd yn oed os ydych yn penderfynu symud i sefydliad arall. Os ydych yn denant presennol, bydd eich cytundeb tenantiaeth yn dod yn gontract meddiannaeth yn awtomatig o 1af Ragfyr 2022.

Contractau

Mae dau fath o gontract meddiannaeth:

  • Contract safonol: Hwn yw’r contract diofyn a fydd yn cael ei ddefnyddio’n bennaf yn y sector rhentu preifat. Ond byddwn ninnau’n defnyddio contractau safonol mewn rhai amgylchiadau. .
  • Contract diogel: Mae hwn yn disodli ein tenantiaethau sicr a hwn yw’r contract diofyn ar gyfer awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fel Cymoedd i’r Arfordir (heblaw am ychydig eithriadau)

Ffitrwydd i fod yn gartref (FFHH)

Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cynnal profion diogelwch trydanol a sicrhau bod larymau mwg a chanfodyddion carbon monocsid sy’n gweithio yn cael eu gosod. Yn ogystal, ni fydd rhent yn daladwy am unrhyw gyfnod pan nad yw’r annedd yn ffit i fod yn gartref. Fodd bynnag, dylech godi unrhyw bryderon gyda’ch landlord yn gyntaf a pharhau i dalu rhent. Os oes anghydfod, y Llys fydd yn penderfynu yn y pen draw a yw eich landlord wedi cydymffurfio â’r rhwymedigaeth ffitrwydd, ac efallai bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw rent oedd yn ddyledus.


Cwestiynau Cyffredin

Beth yw’r Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru?

Yn 2016, pasiodd Llywodraeth Cymru’r Ddeddf a fyddai’n sicrhau bod rhentu cartref yng Nghymru yn symlach ac yn haws i landlordiaid a thenantiaid. Mae’n cyflwyno llawer o newidiadau a fydd yn berthnasol i’r sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat.

Sut olwg sydd ar fy nghontract newydd?

Rhoddwyd contractau newydd i’r holl gwsmeriaid yn ystod mis Mawrth 2023. Byddant yn amrywio ychydig yn ddibynnol ar y math o denantiaeth sydd gennych gyda ni.

Mae hon yn ddogfen gyfreithiol, felly mae wedi’i geirio’n ofalus i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Os oes angen help arnoch i ddeall y contract, cysylltwch â ni.

Dyma enghraifft o gontract meddiannaeth diogel

 

Beth yw pwrpas y Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru?

Sicrhau bod rhentu cartref yng Nghymru yn symlach ac yn haws i landlordiaid a thenantiaid. Mae’n symleiddio cytundebau ac yn anelu at wella cyflwr cartrefi rhent yng Nghymru, ac ar yr un pryd mae’n cynnig mwy o sicrwydd a diogelwch i denantiaid a landlordiaid.

Beth mae’n ei olygu ar gyfer cwsmeriaid?

  • Nawr gelwir pob tenant yn ddeiliad contract a gelwir tenantiaethau yn gontractau meddiannaeth.
  • Ffitrwydd i Fod yn Gartref: Rhaid i landlordiaid sicrhau bod annedd yn ffit i fod yn gartref (FFHH). Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cynnal profion diogelwch trydanol a sicrhau bod larymau mwg a chanfodyddion carbon monocsid sy’n gweithio yn cael eu gosod.
  • Os bydd deiliad contract yn marw, efallai bydd gan y bobl sy’n byw yn y tŷ fwy o hawl i etifeddu’r denantiaeth. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawliau olyniaeth cryfach. Mae’n galluogi olyniaeth ‘â blaenoriaeth’ ac olyniaeth ‘wrth gefn’. Hefyd, mae wedi creu hawl olyniaeth newydd i ofalwyr.
  • Gall deiliad contract ar y cyd gael ei ychwanegu neu ei ddileu o’r contract heb fod angen terfynu’r contract. 
  • Bydd landlordiaid yn gallu ailfeddiannu eiddo gadawedig heb orchymyn llys, ar ôl cyflwyno hysbysiad rhybuddio o bedair wythnos a chynnal ymchwiliadau.

 

Rwy’n denant presennol ar 1af Rhagfyr 2022. Sut fydd yn effeithio arna i?

Byddwch yn derbyn datganiad ysgrifenedig o’ch contract meddiannaeth o fewn 6 mis o 1af Rhagfyr 2022.

Does dim angen llofnodi a dychwelyd y contract meddiannaeth gan fydd y newidiadau wedi digwydd yn gyfreithiol yn barod. Erbyn haf 2023, dylai pob deiliad contract fod wedi cael cyfle i gwrdd â ni wyneb yn wyneb i drafod unrhyw ymholiadau neu bryderon.

Rwy’n gobeithio dod yn Denant Cymoedd i’r Arfordir ar ôl 1af Rhagfyr 2022?

Bydd tenantiaid newydd yn cael eu galw’n ddeiliaid contract hefyd ac ar ôl 1 Rhagfyr 2022, byddant yn llofnodi contractau newydd yn y ffordd arferol. Byddwch yn derbyn copi o’r contract meddiannaeth o fewn 14 diwrnod o feddiannu’r eiddo o dan y contract.

A fydd y Ddeddf yn golygu bod fy rhent yn codi?

Nid yw gweithredu’r Ddeddf yn ei hun yn golygu y bydd eich rhent yn codi’n awtomatig bydd eich rhent ddim ond yn codi yn unol â thelerau eich cytundeb tenantiaeth/contract meddiannaeth a’r Polisi Rhent Cymdeithasol, fel y’i pennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Rwyf yn denant presennol. Beth sydd angen i mi ei wneud?

Yr unig beth fydd angen i chi ei wneud yw darllen eich contract meddiannaeth pan gaiff ei anfon atoch, ac ymgyfarwyddo â’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau. Fel uchod, byddwch yn cael cyfle i drafod cynnwys eich contract meddiannaeth gyda ni ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym.

Rwyf yn denant presennol. A fydda i’n colli unrhyw hawliau?

Na, fyddwch chi ddim yn colli unrhyw hawliau, yn wir bydd gennych well hawliau dan gontract meddiannaeth.

Pam mae yna newid? Oni ddylai Cymoedd i’r Arfordir fod yn canolbwyntio ar bethau eraill?

Mae’r newid hwn yn digwydd oherwydd deddf a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhaid i ni ei gweithredu. Yn y pen draw bydd y newidiadau yn fuddiol i ddeiliaid contract. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i gyflawni gweddill ein gwasanaethau, fel arfer.

Rwyf yn denant presennol. A oes rhaid i mi ei ddarllen a’i lofnodi?

Oes bydd angen i chi ymgyfarwyddo â’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau a byddwn ninnau allan o gwmpas yn curo ar ddrysau erbyn haf 2023 fel y gallwch ei lofnodi. Cadwch olwg ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol yn nes at yr amser i gael gywbod am ddyddiad. Fodd bynnag, os oes gennych gwestiynau cyn hynny, cysylltwch â’r swyddfa a gofyn am eich partner tai cymunedol.

Mae gen i gyd-denantiaeth, a oes rhaid i mi wneud cais newydd neu a fydd yn aros yr un peth?

Na, ni fydd angen i chi wneud cais newydd, bydd yn aros yr un peth nes i chi roi gwybod i ni fod angen i bethau newid. Byddwn yn anelu at gasglu llofnod gennych chi a’r cyd-denant fel rhan o’r newid.

Rwyf yn denant presennol. A ydw i’n ddiogel yn fy nghartref o dan y cytundeb newydd?

Ydych, does dim angen i chi boeni. Byddwch yn cael byw yn eich cartref o hyd.

Pa deitl roddir i bobl yn y dyfodol ‒ tenant, cwsmer neu ddeiliad contract?

Rydyn ni’n cyfeirio atoch fel ein cwsmeriaid felly does dim newid yma, heblaw am yn eich contract lle byddwch yn cael eich galw’n ddeiliad contract. Pe byddai unrhyw weithrediadau cyfreithiol yn digwydd, byddech yn cael eich galw’n ddeiliad contract bryd hynny hefyd.

Dydw i ddim yn cytuno â’r newidiadau neu â’r term ‘contract meddiannaeth’, felly beth sy’n digwydd nawr?

Mae’r newidiadau a’r derminoleg i gynnwys ‘contract meddiannaeth’ yn y Ddeddf wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru. O’r herwydd, yn anffodus ni allwch wneud dim os nad ydych yn cytuno â’r newidiadau.

Sut alla i gael copi o’m cytundeb tenantiaeth presennol fel y gallaf ei gymharu â’r un newydd?

Os cysylltwch â’r swyddfa a gofyn am eich partner tai cymunedol, byddant yn gallu anfon copi i chi o’ch cytundeb tenantiaeth presennol.

Mae gen i ragor o gwestiynau (Link opens in new window)

Os ydych yn ansicr ynglŷn â beth mae hyn yn ei olygu i chi, neu mae gennych gwestiwn nad yw ar y rhestr, cysylltwch â ni.


Ymwadiad: Mae’r wybodaeth uchod yn enerig ac ni fwriedir iddi fod yn gyngor cyfreithiol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch cytundeb tenantiaeth/meddiannaeth penodol, cysylltwch â Chymoedd i’r Arfordir.