Beth yw celcio?

Celcio yw cronni eitemau y mae’n ymddangos nad oes ganddynt lawer o ddefnydd na gwerth megis bagiau sbwriel, eitemau o werth personol, papurau newyddion, celfi neu unrhyw beth sy’n atal y cwsmer rhag defnyddio’r gofod yn ei gartref yn ddiogel.

Yn aml, mae gan bobl sy’n celcio ymlyniadau cryf i eitemau a allai fod yn anodd i bobl eraill eu deall. Maent, yn aml, yn wrthwynebol i’r syniad o glirio eu heiddo sy’n gallu bod yn drawmatig iddynt.

Mae celcio, yn aml, yn digwydd y tu fewn i’r cartref ond, mae hefyd yn effeithio ar ardaloedd byw a rennir ac ardaloedd awyr agored a rennir megis cynteddau, tyllau grisiau a gerddi.

Gall celcio gael effaith ddwys ar y person sy’n celcio ac ar ei gymdogion, ei gymuned a’i eiddo. Gall arwain at risg uwch o blâu a gall achosi i gartrefi ddod yn anniogel i fyw ynddynt.

Pryd dylen ni ymyrryd?

Fel landlord cyfrifol, mae’n rhaid i ni gydbwyso anghenion yr unigolyn ag anghenion y gymuned. Os yw achos o gelcio yn cael ei adrodd i ni, byddwn ni’n gweithio gyda’r cwsmer i’w gefnogi i gael gwared ar yr eitemau sy’n achosi pryder.

Os yw lefel y risg yn uchel neu os yw’r effaith ar y gymuned leol yn annerbyniol, byddwn yn ymyrryd ochr yn ochr â’n partneriaid yn y Gwasanaethau Cymdeithaol, Iechyd yr Amgylchedd a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gefnogi’r preswylydd i glirio’r eiddo.

Y peryglon sydd ynghlwm â chelcio

– Gall mynd i mewn i’r eiddo a symud o amgylch ynddo ddod yn anniogel.

– Risg uwch o dân ar gyfer unigolyn a’i gymdogion oherwydd gallai eitemau sydd wedi’u celcio weithredu fel tanwydd (ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran isod).

– Gallai gwresogyddion symudol a cheblau estyn fod yn cael eu defnyddio  sydd hefyd yn gallu cynyddu’r risg o dân.

– Mae celcio yn gysylltiedig â hunan-esgeulustod.

– Gallu achosi difrod i’r eiddo.

– Gallai arwain at blâu.

– Nid yw ystafelloedd yn cael eu defnyddio at y pwrpas a fwriedir gan atal y
cwsmer rhag byw yn ddiogel ac mewn ffordd lân.

– Gallai mynediad ar gyfer atgyweiriadau a gwiriadau diogelwch nwy gael
eu gwrthod neu eu rhoi dan fygythiad.

Sut y byddwn ni’n eich helpu chi

Bydd ein Tîm Tai Cymunedol yn ceisio cynnal asesiad celcio yn yr eiddo ar ôl derbyn adroddiad celcio. Mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud nesaf yn dibynnu ar lefel y celcio ac a oes angen cymorth ar y cwsmer i fynd i’r afael ag ef.

Os bydd y cwsmer yn ymgysylltu â’r broses, byddwn yn ei gefnogi i ddod o hyd i ateb a chytuno ar amserlen er mwyn clirio eitemau.

Os bydd y cwsmer yn gofyn am gymorth i newid ei ymddygiad, caiff atgyfeiriad ei anfon i’n Tîm Ymyrraeth Tai a fydd yn gweithio gyda’r cwsmer i drefnu unrhyw gymorth arbenigol angenrheidiol i fynd i’r afael ag achos y celcio. Efallai y bydd y tîm yn cyflwyno atgyfeiriad diogelu i’r Gwasanaethau Cymdeithasol os yw’r preswylydd yn oedolyn sy’n agored i niwed a fyddai’n elwa o gymorth cymunedol.

Nid yw rhai pobl yn dymuno mynd i’r afael â’r celcio a, hyd yn oed oes ydynt yn cydnabod bod ganddynt broblem, maent yn ei chael hi’n anodd iawn i newid eu hymddygiad. Byddwn ni’n ceisio gweithio trwy’r materion hyn gyda’r cwsmer a threfnu cymorth i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio iddo ac i’r gymuned.

Gall achosion celcio fod yn gymhleth felly gall cynnydd fod yn araf ond, os yw’r celcio yn achosi risg di-oed a risg uchel i’r cwsmer a/neu gymdogion, byddwn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i helpu’r cwsmer i weithredu. Os bydd angen gweithredu ar unwaith ac mae’n bosibl yn gyfreithiol, byddwn yn cymryd camau gweithredu i dynnu’r eitemau sydd wedi’u celcio.

Mae rhai pobl sydd wedi celcio yn debygol o gelcio eto, felly byddwn yn parhau i fonitro’r eiddo hyd yn oed os yw’n ymddangos bod y celcio wedi’i ddatrys.

Celcio a diogelwch tân

Mae celcio yn fater cymhleth sy’n gallu creu risgiau tân sylweddol mewn cartrefi. Cadwch eich hun a phobl eraill yn ddiogel trwy ddilyn cyngor lleihau risg a chael cymorth ar gyfer y rhai sy’n profi tueddiadau celcio.

Y risgiau

● Gall celcio rwystro allanfeydd yn y cartref gan wneud dianc yn gyflym yn anodd.

● Gall eitemau ychwanegol gwympo yn achos tân gan achosi rhwystrau pellach.

● Mae anhrefn gormodol yn darparu tanwydd i dân dyfu’n gyflym.

● Gall larymau tân gael eu rhwystro neu fod yn llai effeithiol o ganlyniad i ddarnau ac anhrefn yn cronni.

● Yn aml, mae’n cymryd yn hirach i achub y rhai sy’n sownd ymhlith eitemau wedi’u celcio am fod cartrefi anniben yn heriol i ymladdwyr tân eu llywio a diffodd y tân.

Lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â chelcio

Cadwch cynteddau, ardaloedd drysau a ffenestri yn glir rhag anhrefn i sicrhau gwacáu yn hawdd a mynediad hawdd i’r gwasanaethau brys.

● Profwch a chynnal larymau tân yn rheolaidd drwy lanhau unrhyw lwch neu ddarnau oddi arnynt. Sicrhewch nad yw eitemau sydd wedi’u celcio yn eu rhwystro.

● Dylech gyfyngu ar nifer yr eitemau fflamadwy megis papur, defnydd a chemegau yn eich cartref. Gall pethau megis papurau newyddion gynnau tân a’i ledu’n gyflym.

● Storiwch eitemau peryglus megis nwyddau glanhau, cemegau a hylifau fflamadwy mewn cynhwyswyr diogel yn bell o ffynonellau gwresogi.

● Dylech osgoi gorlwytho socedi trydan a defnyddio ceblau estyn priodol er mwyn atal tanau trydanol.

● Gwiriwch fod gwifrau estyn ac offer mewn cyflwr da.

● Dylech ddatblygio dyfeisiau trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

● Dylech greu cynllun diogelwch tân a’i ymarfer gyda phawb sy’n byw yn yr eiddo.

● Dylech gytuno ar fan cyfarfod diogel y tu allan i’r adeilad.