Rydyn ni’n derbyn adroddiadau weithiau bod pobl yn esgus bod yn beirianwyr er mwyn ceisio cael mynediad i gartrefi pobl.

Rydyn ni’n argymell eich bod yn wyliadwrus wrth ateb y drws bob amser, yn enwedig os nad ydych chi wedi trefnu apwyntiad gyda ni.

Cofiwch:

  • Bydd staff Llanw a Chymoedd i’r Arfordir yn gwisgo iwnifform lawn Llanw/ Cymoedd i’r Arfordir bob amser.
  • Bydd gan ein staff ID ffotograffig gyda nhw bob amser.

Gallwch ffonio ein canolfan bob amser ar 0300 123 2100 os ydych chi’n ansicr am eu hunaniaeth, neu os nad ydych chi wedi gwneud apwyntiad.